Digwyddiadau

Digwyddiad: Teithiau Ysbryd Castell Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
20 Medi 2023, 8pm
Pris £18.50
Addasrwydd 12+
Archebu lle www.darkwalestours.co.uk
Castell Sain Ffagan

Plasty o’r 16eg ganrif, gyda sylfeini yn dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif, yw Castell Sain Ffagan. Cafodd ei roi i bobl Cymru gan 3ydd Iarll Plymouth ym 1948. 

Tocynnau

 

Mae llawer o bethau rhyfedd wedi eu gweld a’u clywed rhwng muriau’r Castell... Golau’n dod ymlaen ac yn diffodd ohono’i hun, lleisiau’n siarad ac yn canu pan fo’r lle’n wag, plant yn ymddangos mewn ffenestri, neu yn gwisgo dillad o’r oes a fu.

 

Ac mae ysbrydion i’w gweld y tu allan i’r Castell hefyd – mae milwyr wedi’u gweld ar hyd y llwybrau, ac mae sawl person wedi gweld dyn rhyfedd yn crwydro’r ardd ar ei ben ei hun.

 

Dewch i ddarganfod mwy am y dirgelion hyn, a’u cysylltiad â’r safle hanesyddol, ar Daith Ysbrydion Castell Sain Ffagan.

Cewch fynediad arbennig yn y nos i lawr gwaelod Castell Sain Ffagan, lle bydd eich tywysydd yn adrodd straeon y Castell a’r ysbrydion sydd wedi’u gweld yma dros y blynyddoedd.

 

Bydd y daith yn crwydro o gwmpas y Castell a’r gerddi. I gael profi straeon ysbryd yr adeiladau hanesyddol o fewn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gweler Taith Ysbrydion Amgueddfa Sain Ffagan.

 

​Does dim gemau na thriciau ar y daith hon, ac NID arbrawf goruwchnaturiol fydd hi chwaith. Allwn ni ddim gwarantu y bydd unrhyw ysbrydion i’w gweld. Rydyn ni wedi ymchwilio’n drwyadl i hanes yr adeiladau, ac mae’r straeon y byddwn yn eu hadrodd yn hanesion gwir am brofiadau staff, ymwelwyr a gwesteion yn Sain Ffagan dros y blynyddoedd.

Partneriaeth rhwng Sain Ffagan Amgueddfa Werin a Dark Wales Tours yw’r teithiau.

Nifer benodol o leoedd sydd ar gael. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.

Iaith: Cynhelir y taith yn Saesneg. Os hoffech drefnu taith iaith Gymraeg, cysylltwch â Dark Wales Tours.

Digwyddiadau