Digwyddiad: Wythnos Addysg Oedolion - Gweithgareddau Crefft (sesiynau galw heibio)

Galwch draw i’n sesiynau crefft anffurfiol yn Sain Ffagan. Dewch i ddysgu sgil newydd, cwrdd â phobl newydd a chael eich ysbrydoli gan gasgliadau'r Amgueddfa.
Dydd Llun Medi 18
2pm-4pm
Gwehyddu a Chrefftau Edafedd Traddodiadol: Dewch i wehyddu llyfrnod, neu roi cynnig ar wau a chrosio.
Cardiau Cyfarch: Cyfle i greu cyfres o gardiau cyfarch lliwgar wedi'u hysbrydoli gan ein hadeiladau a'n casgliadau.
Dydd Mawrth Medi 19

Dydd Iau Medi 21
2pm-4pm
Matiau Rhacs a Ffeltio Gwlyb: Rhowch dro ar greu mat rhacs bach eich hun, neu droi eich llaw at ffeltio gwlyb.
Dydd Gwener Medi 22
10.30am-12.30pm
Creu Torch Hydrefol Ecogyfeillgar: Dewch i greu torch gyda deunyddiau naturiol i’w hongian ar eich drws. Beth am roi cynnig ar greu rhaffau o ffibrau naturiol?