Digwyddiad: Nosweithiau Calan Gaeaf

Nosweithiau Calan Gaeaf Sain Ffagan 2023
Mae Calan Gaeaf ar ei ffordd, ac mae'n bryd dod â'r bwganod bach drygionus i'r Amgueddfa am noson ddychrynllyd o dda!
Dilynwch eich trwynau o amgylch yr Amgueddfa i ganfod ein gwesteion arallfydol. Mae pob un yn gymeriadau o hanesion llên gwerin rhyfeddaf Cymru – fyddwch chi'n ddigon dewr i roi cnoc ar y drws?
Bydd y Gŵr Gwiail yn llosgi bob nos hefyd. Dathlwch wrth groesawu'r gaeaf a gwneud dymuniad wrth i'r gwreichion dasgu!
Bydd straeon syfrdanol yn codi bwganod yn hen fwthyn Nantwallter ac o gwmpas crochan y wrach yn Oakdale.
Rhowch gynnig ar rai o'r gweithdai crefft a chreu llusern, cymysgu diod hud a llawer mwy...
Dysgwch am y Gŵr Gwiail yn y talwrn ceiliogod.
Galwch draw i Sgwâr Gwalia i fwyta a thorri syched gyda dewisiadau o fwyd a diod poeth
Dewch ag arian parod i’w wario yn y ffair a’r Farchnad Grefftwyr
Mae pris y tocyn yn cynnwys:
• Gweithgareddau galw draw*
o Creu Llusern
o Cymysgu diod hud
o Crefftau Calan Gaeaf
o Creu Gŵr Gwiail bach
• Straeon ysbryd
• Arddangosfa o 50 a mwy o rwdins prydferth
• Peintio wynebau
• Un taith yr un i bob plentyn yn y ffair (dan 18 yn unig)
• Perfformiadau gan gymeriadau Calan Gaeaf La La La
• Llosgi'r Dyn Gwiail am 8:30pm
• Parcio am ddim ar gyfer y digwyddiad (ar ôl 5pm)
* ddim yn cynnwys gweithgareddau'r Farchnad Grefftwyr.
Bydd bwyd a diod ar gael i'w prynu o gaffi'r Amgueddfa yn y Prif Adeilad, y siop sglodion, a’r stondinau ar Sgwâr Gwalia.
Gwybodaeth Bwysig:
- Mae parcio yn gyfyngedig iawn yn Sain Ffagan, ystyriwch rannu ceir.
- Rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw. Mae llefydd yn gyfyngedig a disgwyliwn i docynnau werthu allan yn gyflym.
- Mae’r digwyddiad a’i weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer plant 6+ oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.
- Mae mynediad i blant dan 2 oed am ddim – archebwch docyn am ddim i bob plentyn dan 2 oed fydd yn mynychu. Fydd plant dan 2 oed ddim yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft, a fyddan nhw ddim yn cael reid am ddim yn y ffair oherwydd cyfyngiadau oedran.
- Caniateir pramiau a chadeiriau gwthio ar y safle, ond ni ellir mynd i mewn i'r adeiladau hanesyddol.
- Dylech chi wisgo dillad sy'n addas i'r tywydd. Bydd angen i chi aros tu allan tan i'r drysau agor am 6pm, ac mae’n bosibl y bydd rhaid i chi aros tu allan i adeiladau cyn mynychu gweithgareddau a gweithdai.
- Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
- Cŵn cymorth yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.
- Byddwch chi'n derbyn cadarnhad o'ch tocynnau ar ôl archebu.
- Byddwch chi'n derbyn ebost cyn y digwyddiad gyda map o'r safle wedi atodi. Plis cofiwch safio y map ar eich ffôn cyn ymweld a'r noson Calan Gaeaf.
- Am fwy o wybodaeth hygyrchedd plîs ewch ar ein wefan: https://amgueddfa.cymru/sainffagan/ymweld/mynediad/