Digwyddiadau

Digwyddiad: Hanes Pobl Dduon Cymru - Dathlu a Dyrchafa

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
30 Medi 2023, 9am - 4.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw heibio

Ymunwch gyda ni i ddathlu Hanes Pobl Dduon a’r thema eleni o ‘Ddathlu a Dyrchafu’

Dewch inni anrhydeddu'r gorffennol a dyrchafu'r dyfodol gyda'n gilydd wrth inni gofleidio cyfoeth Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.

 

Byddwn ni'n dathlu hanes, diwylliant a chyfraniad pobl o dras Du-Affricanaidd ac Affricanaidd Caribïaidd, drwy gyfrwng cerddoriaeth, perfformio, a chelf. 

Bydd amrywiaeth o stondinau hefyd yn gwerthu nwyddau Hanes Du Cymru a bwydydd Affricanaidd a Charibïaidd i'w blasu. 

Mae croeso i bawb.

Gan gynnwys perfformiadau gan: 

  • Praize Band

  • Soel Connect 

  • Amarachi Attamah 

  • Mace the Great 

Gyda gwesteion a siaradwyr gwadd.

Digwyddiadau