Arddangosfa:Hawlio Heddwch
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, llofnododd bron i 400,000 o fenywod Cymru ddeiseb heddwch a'i chyflwyno i fenywod Unol Daleithiau America. Roedden nhw'n galw am ddyfodol heb ryfel.
Ganrif yn ddiweddarach, cafodd Deiseb Heddwch Menywod Cymru ei hailddarganfod a’i dychwelyd i Gymru. Mae’r ddeiseb a’r gist, ar fenthyg gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ymhlith rhai o brif atyniadau’r arddangosfa hon.
Ochr yn ochr â’r ddeiseb mae cyfle i weld baneri protest eiconig ymgyrch heddwch Comin Greenham yn y 1980au, sy’n rhan o gasgliad parhaol Amgueddfa Cymru.
Dewch i ddarganfod mwy am rai o’r menywod ysbrydoledig hyn a’u cyfraniad at heddwch rhyngwladol.
Mae’r arddangosfa yn rhan o Bartneriaeth Hawlio Heddwch.
Digwyddiadau perthnasol
Gwybodaeth
Annie Hughes-Griffiths yn dal Apêl Heddwch Merched Cymru yn Washington DC, gyda Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys, 21 Chwefror 1924.
© Drwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Baner a ddyluniwyd gan Thalia ac Ian Campbell yn darlunio golygfeydd o Wersyll Heddwch Menywod Comin Greenham, 1980au cynnar. Wedi’i gwnïo gan Jan Higgs.
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd