Arddangosfa:Cymru… ac ymerodraeth

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Gwybodaeth

O 4 Mai 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Beth mae’r casgliadau yn yr amgueddfa yn ei ddweud am gynrychiolaeth yng Nghymru? Sut allwn ni roi llwyfan i hanesion sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion fel rhan o fywyd Cymru heddiw? Lleisiau a straeon pwy sy’n gryfach yma?

Mae’r artist, Nasia Sarwar-Skuse, a’r sefydliad celfyddydol Ways of Working yn archwilio’r themâu hyn mewn cyfres o osodweithiau ar draws safle yr amgueddfa. Gallwch weld eu gwaith yn y lleoliadau canlynol: 

Atriwm Sain Ffagan (prif fynedfa)  
Cyfle i chi ymateb i gwestiynau gan Nasia a Ways of Working ynglŷn â gwladychu, pŵer ac amgueddfeydd. Mae’r cwestiynau yn newid yn fisol. Rhannwch eich argraffiadau a’ch barn. 

Oriel Cymru… 

Yma gwelwch ail-gread o ystafell fyw sy’n llawn sgyrsiau am atgofion, ymfudo, ac ystyr ymerodraeth heddiw. Yng nghanol y gosodwaith mae soffa Robert Clive (1725-74), neu ‘Clive o India’. Mae gwahoddiad agored i chi ystyried yr eitem o fewn y cyd-destun domestig hwn a ffocysu ar y gwladychwr.

Castell Sain Ffagan (y neuadd) 

Profwch yr ail-gread o babell Tipu Sultan (1750-99), llywodraethwr teyrnas Mysore, wedi ei ysbrydoli gan ei ddyddiadur breuddwydion ac ymchwil i’w fywyd. Cafodd y babell wreiddiol ac arteffactau eraill, sydd yng nghasgliad Castell Powis, eu hysbeilio a daeth yn gyfalaf diwylliannol pwerus i’r gwladychwyr. Mae teulu Windsor-Clive o Gastell Sain Ffagan yn gysylltiedig â Clive o India drwy briodas ei ŵyr, Robert Henry Clive gyda’r Arglwyddes Harriet Windsor.

Castell Sain Ffagan (ystafell fwyta) 

Presenoldeb Absennol – ffilm wedi ei leoli yng ngerddi a Chastell Sain Ffagan, gan Nasia Sarwar-Skuse. Perfformiwyd gan Sanea Singh a ffilmiwyd gan Ruslan Pilyarov.

Mae Safbwynt(iau) yn broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru gyda’r bwriad o weddnewid sut mae’r sector treftadaeth a chelfyddyd weledol yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymdrech i gyflawni amcanion diwylliant a threftadaeth y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.  
 

Darganfyddwch Mwy

 

Ymweld

Oriau Agor

Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf.

O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10yb-4yp bob dydd.

Bydd gwahanol oriau agor ar gyfer ein digwyddiadau Nadolig – gweler tudalennau'r digwyddiadau ar ein gwefan am ragor o fanylion.

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

> Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau