Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Coetiroedd Sain Ffagan yw’r lle perffaith i Ddathlu Natur – felly dyna beth rydyn ni’n ei wneud! Bydd Gwyddonwyr yr Amgueddfa – sy’n arbenigwyr ar blanhigion, chwilod a phob math o bryfed – wrth law i ddangos yr amrywiaeth ddiddorol o fywyd sy’n bodoli yn y coetir. Ac rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â llawer o elusennau natur lleol a fydd yn ychwanegu eu harbenigedd nhw at y diwrnod. Dewch i gwrdd â choeden ganu anhygoel y Cyngor Coed neu gymryd rhan mewn llu o weithgareddau sy’n cael eu cynnal gan Geidwaid Parciau Cymunedol Caerdydd, a llawer mwy. Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael fel treillio mewn pyllau hambwrdd, creu bomiau hadau, adnabod coed, sgyrsiau, teithiau cerdded, crefftau a mwy!
Beth alla i ei wneud?
ARCHEBU LLE AR DAITH GERDDED
Gallwch archebu lle ar daith gerdded gydag un o’n harbenigwyr. Dewiswch rhwng – • 11am - ‘Planhigion ar gyfer Bywyd Gwyllt’. Ymunwch â’r Cadwraethydd Gerddi, Elin Barker, ar daith o'r gerddi. Yn addas i bobl 8+ oed. • 12pm - Dewch ar daith i weld y coed o amgylch yr adeiladau hanesyddol gyda churaduron o’r Adran Fotaneg. Yn addas i bobl 8+ oed. • 1pm - Ymunwch â churaduron o’r adran Ddaeareg ar daith o amgylch adeiladau Sain Ffagan i ddysgu mwy am y cerrig a’u hadeiladodd. Yn addas i bobl 12+ oed. • 2pm - Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru ar daith gerdded fer i ymweld ag Afon Elái a dysgu mwy am y gwahanol gynefinoedd a’r bywyd gwyllt sy’n byw ar y dŵr ac yn agos ato. Yn addas i bobl 8+ oed. • 3pm - Dewch ar daith i weld y coed o amgylch yr adeiladau hanesyddol gyda churaduron o’r Adran Fotaneg. Yn addas i bobl 8+ oed.
Gofynnwn i chi dalu beth allwch chi ar gyfer y teithiau, gydag isafswm rhodd o £2 y tocyn.
Tocynnau
GWEITHGAREDDAU GALW HEIBIO • Dewch i gael eich rhyfeddu gan arddangosfa ymdrochol y Cyngor Coed, ‘Force for Nature’ • Gallwch chwarae’r gêm fwrdd ‘Ffosileiddio Ffyrnig’ neu ewch â thaflen sylwi ar ffosilau i fynd â hi i’r traeth gyda chi. Ydw i wedi darganfod ffosil? • Gwyliwch y ffilm dwymgalon ecogyfeillgar, 2040, yn y Ddarlithfa. • Cymerwch ran yn ein llwybr o amgylch yr Amgueddfa. £2 y pen, i’w dalu ar y diwrnod. Nifer cyfyngedig o lwybrau sydd ar gael, a hynny ar sail cyntaf i'r felin. • Rhowch gynnig ar rai o’r gweithgareddau sy’n cael eu darparu gan Geidwaid Cymunedol Cyngor Caerdydd. • Dysgwch fwy am y cerrig yn adeiladau Sain Ffagan a gweld lluniau agos lliwgar o'r tu mewn i greigiau. • Edrychwch ar folysgiaid gwych o gasgliad yr Amgueddfa a gweld molysgiaid byw y gallech chi ddod o hyd iddyn nhw yn eich pwll eich hun yn ein gweithgaredd treillio mewn pwll hambwrdd. Malwod Dŵr Gerddi Cymru. • Dewch i fod yn wenyn prysur ar ein stondin pryfed gyda gemau a gwybodaeth am ein peillwyr pwysig, a dysgu a yw gwenyn yn gweiddi! • Dysgwch fwy am y coed anhygoel yng nghoetiroedd Sain Ffagan – beth am gymryd 5 munud i dawelu eich hun drwy ymlacio yn y goedwig. Coed a llwyni collddail Cymru. • Dewch i fwynhau glan y môr dan do gyda'n pwll glan môr cartref. • Lawrlwythwch ein taflen sylwi Adar Cyffredin yr Ardd a threulio amser yn y guddfan adar i weld beth allwch chi ei weld. Adar Cyffredin yr Ardd. • Ewch i ymweld â stondinau Amgueddfa neu bartneriaid eraill neu gymryd rhan yn y gweithgareddau crefft.
Gwybodaeth bellach • Os ydych chi wedi rhag-archebu tocynnau ar gyfer taith, ewch i Ddesg Wybodaeth y Digwyddiad yn y Neuadd Groeso. • Am resymau cynaliadwyedd, lle bo'n bosib rydyn ni’n defnyddio codau QR ar gyfer taflenni sylwi a mapiau. • Sylwch, gall gweithgareddau a phartneriaid newid ar y funud olaf, felly ffoniwch cyn teithio’n arbennig. • Diolch am gefnogaeth chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.
Gyda diolch i holl bartneriaid y digwyddiad yma; cliciwch ar yr enwau isod i ddysgu mwy am y sefydliadau anhygoel yma! Cyngor Caerdydd , Y Cyngor Coed, Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Cymru, Coed Caerdydd, Maint Cymru, Llinell Gymorth Draenogod, Partneriaeth Lefelau Byw, Buglife Cymru, Ymddiriedolaeth ARC, Natur Am Byth, Project Ailgyflwyno’r Eryr Cymru.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd