Digwyddiad:Hawlio Heddwch – Gweithdy Cennin Pedr ffelt

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Archebu tocynnau

Dewch i ymuno â ni i greu cennin Pedr heddwch. Nid yn unig y mae cennin Pedr yn cynrychioli diwylliant Cymru, ond maen nhw hefyd wedi bod yn symbol o obaith ers Apêl Heddwch Menywod Cymru yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd bathodynnau lapel cardfwrdd eu dosbarthu, ynghyd â niferoedd helaeth o fylbiau cennin Pedr ar gyfer 'Diwrnodau Cennin Pedr' a gyfrannodd at incwm Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd.

Nod y sesiwn hon yw i gyfranogwyr greu dwy genhinen Pedr, un i fynd adref gyda chi a'r llall i’w gadael yn yr Amgueddfa gyda neges heddwch.

Cynhelir y gweithdy hwn ar y cyd ag Academi Heddwch i ddathlu 100 mlynedd ers Deiseb Heddwch Menywod Cymru. 

Apêl Merched dros Heddwch, 1923-24

Bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu darparu. Mae’r gweithdy hwn yn addas i deuluoedd. Dylai pob cennin Pedr gymryd tua 15 munud i'w chreu.

Digwyddiadau Perthnasol

Gwybodaeth

24 Gorffennaf 2024, 11yb - 1yp
Pris Am ddim
Addasrwydd Teulu cyfan
Braslun Cennin Pedr gyda sawl petal ar ddarn papur hir a chul wedi heneiddio

© Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Llun du a gwyn hanesyddol. Mae pump oedolyn yn sefyll a'r risiau y tu allan i adeliad. Mae un person yn dal dogfen papur o'i blaen yng nghanol ffram y llun
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau