Digwyddiad:Cwrdd â’r athro!

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Tocynnau 


Ymunwch â ni ym Maestir – ein hysgol Fictorianaidd – i brofi bywyd fel disgybl yn Oes Fictoria. Cewch gyfle i wisgo fyny, eistedd wrth ddesg ysgol draddodiadol, a dysgu am addysg yn Oes Fictoria drwy wrthrychau a gweithgareddau. 

Croeso i blant ac oedolion.

Gellir archebu sesiynau am: 11am (Saesneg), 12pm (Saesneg), 2pm (Cymraeg), 3pm (Saesneg). Mae sesiynau’n para oddeutu 30 munud. 

Mae croeso i chi alw mewn rhwng sesiynau.

Tu hwnt i amseroedd y gweithdai, gallwch alw mewn i’r ysgol i gwrdd â’r athro a gweld rhai o’r gwrthrychau o’r casgliad. 
 

Gwybodaeth Bwysig 

  • Uchafswm o 20 o bobl
  • Rhaid cael goruwchwyliaeth oedolyn
  • Talu Beth Allwch Chi gydag isafswm cyfraniad o £3.
  • Addas ar gyfer rhai 6+

Gwybodaeth

20 Awst 2024, 10am - 4pm
Pris £3
Addasrwydd 6+
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau