Digwyddiad:Cwrdd â’r Siopwyr!
Dysgwch am sut roedd bwyd yn cael ei fewnforio a’i storio, darganfyddwch beth oedd pobl yn ei fwyta a’r arian roeddynt yn ei ddefnyddio yn yr 1920au.
Tu hwnt i amseroedd y gweithdai, gallwch alw mewn i’r ysgol i gwrdd â’r athro a gweld rhai o’r gwrthrychau o’r casgliad.
Mae croeso i chi alw mewn rhwng sesiynau.
Gellir archebu sesiynau am: 11am (Saesneg), 12pm (Saesneg), 2pm (Cymraeg), 3pm (Saesneg).
Mae sesiynau’n para oddeutu 30 munud.
Gwybodaeth Bwysig
- Uchafswm o 20 o bobl
- Rhaid cael goruwchwyliaeth oedolyn
- Talu Beth Allwch Chi gydag isafswm cyfraniad o £3.
- Addas ar gyfer rhai 6+
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm bob dydd.
Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau o 2pm ar 23 Rhagfyr. Ar gau 24 - 26 a 1 Ionawr.
Ar gau 8 Ionawr 2025 ar gyfer hyfforddiant staff.
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Mynediad
> Canllaw MynediadGwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
- Pyllau dŵr a llynnoedd
- Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
- Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd