Digwyddiad:Darganfod yr Oes Haearn

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Tocynnau 

Ymunwch â ni ym Mryn Eryr, ein tŷ crwn o Oes yr Haearn i brofi bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl! Eisteddwch o gwmpas y tân gydag archeolegydd, a dysgwch am sut roedd pobl yn byw, bwyta ac adeiladu eu catrefi.

Mae croeso i chi alw mewn rhwng sesiynau.

Gellir archebu sesiynau am: 11am (Saesneg), 12pm (Saesneg), 2pm (Cymraeg), 3pm (Saesneg). 

Mae sesiynau’n para oddeutu 30 munud.

Tu hwnt i amseroedd y gweithdai, gallwch alw mewn i’r ysgol i gwrdd â’r athro a gweld rhai o’r gwrthrychau o’r casgliad.

Gwybodaeth Bwysig 

  • Uchafswm o 20 o bobl
  • Rhaid cael goruwchwyliaeth oedolyn
  • Talu Beth Allwch Chi gydag isafswm cyfraniad o £3.
  • Addas ar gyfer rhai 6+

Gwybodaeth

22 Awst 2024, 10am - 4pm
Pris £3
Addasrwydd 6+
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm bob dydd.

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau o 2pm ar 23 Rhagfyr. Ar gau 24 - 26 a 1 Ionawr. 

Ar gau 8 Ionawr 2025 ar gyfer hyfforddiant staff. 

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

> Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau