Digwyddiad:Cwis Tafarn Gwesty’r Vulcan
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Camwch yn ôl mewn amser i 1915 a dewch am noson o her ymenyddol a hwyl yng nghwis tafarn newydd sbon y Vulcan! Dyma gyfle i roi prawf ar eich gwybodaeth a mwynhau’r awyrgylch hen-ffasiwn wrth i chi a’ch ffrindiau gystadlu i ennill pecyn Rhodd Cwrw Vulcan bob un.
Mae’n noson gwis hollol wahanol! Welwn ni chi yno!
Gwybodaeth Bwysig
- Sylwch y bydd y Vulcan ar agor o 5pm ymlaen, i’r rhai sydd wedi archebu tocynnau i’r cwis tafarn yn unig.
- Bydd y cwis yn dechrau am 6pm, a bydd y bar yn galw am archebion olaf am 9:30pm.
- Mae’r Vulcan tua 10 munud o gerdded o fynedfa’r amgueddfa.
- Rydym yn gweithredu polisi Her 25 - efallai y bydd angen ID wrth archebu diodydd alcoholig.
- Cynhelir y cwis yn Saesneg
Gwybodaeth
15, 29 Medi, 13, 27 Hydref, 10, 24 Tachwedd, 8 a 22 Rhagfyr 2024,
5pm-10pm
Pris
£5 y person
Addasrwydd
Oedolion
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd