Digwyddiad:Canu yn y Capel

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa?

Archebu tocynnau

Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd. Bydd digon o garolau traddodiadol yn ogystal ag ambell glasur fwy cyfoes.

Gwybodaeth Bwysig:

• Rhaid i bawb sy’n dod gael tocyn. Does dim angen tocyn ar gyfer plant dan 2 oed a fydd yn eistedd ar eich côl na babanod yn eich breichiau, ond rhaid gadael pob pram tu allan i’r adeiladau hanesyddol.
• Mae sesiynau ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd iaith pob sesiwn wedi ei labeli yn glir ar y dudalen docynnau. Gwnewch yn siwr eich bod yn dewis y tocyn cywir ar gyfer eich dewis iaith.
• Hygyrchedd: Oherwydd natur hanesyddol y Capel, ychydig o le sydd ar gyfer cadeiriau olwyn. Dewiswch le cadair olwyn wrth brynu’ch tocyn. Mae tocyn ar gyfer lle cadair olwyn yn cynnwys 1 x tocyn gofalwr am ddim.
• Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn. Caniatewch hyd at 10 munud i gerdded o faes parcio yr Amgueddfa i Gapel Penrhiw. Os ydych chi'n cyfuno'r digwyddiad hwn gydag unrhyw un o'r sesiynau Nadolig eraill, gadewch hyd at 15 munud i gerdded o un gweithgaredd i'r llall.
• Dylid gwisgo dillad addas i’r tywydd. Bydd gofyn i chi aros y tu allan tan amser cychwyn eich sesiwn.
• Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £7 y diwrnod am barcio.
• Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
• Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.
 
Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%, dewch yn aelod heddiw
 
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
 
Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Logos ar gyfer People's Postcode Lottery and Postcode Culture Trust

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

 
 

Gwybodaeth

21–22 Rhagfyr 2024, 11am | 1pm | 3pm
Pris £6
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau