Digwyddiad:Cwrdd â Siôn Corn

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Bydd Siôn Corn yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â'n digwyddiad arbennig mewn groto hudolus mewn ardal breifat o'r Brif Adeilad. Bydd Siôn Corn yn adrodd stori, cyn cwrdd â phob plentyn yn unigol i roi anrheg iddynt.

 
Mae'r digwyddiad Cwrdd â Siôn Corn hwn yn ddigwyddiad annibynnol - gweler isod fanylion digwyddiadau a phrofiadau Nadoligaidd eraill gyda rhai o gynorthwywyr Siôn Corn y gellir eu harchebu i lenwi eich diwrnod gyda hwyl yr ŵyl.
 
 

Archebu Tocynnau

 
 

Gwybodaeth Bwysig:

• Rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw. Mae llefydd yn gyfyngedig a disgwyliwn i docynnau werthu allan yn gyflym.
• Mae angen tocyn ar gyfer pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Oherwydd prinder lle yn y groto, dim ond dau oedolyn/gofalwr na fydd yn cymryd rhan gaiff fod efo pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Does dim angen tocyn ar gyfer babanod mewn breichiau sydd ddim yn cymryd rhan, ond ni fyddant yn derbyn anrheg gan Siôn Corn.
• Mae sesiynau ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda chyfieithydd ar y pryd BSL ar gael i'w ddau sesiwn cyntaf bob dydd Sul. Bydd iaith pob sesiwn wedi ei labeli yn glir ar y dudalen docynnau. Gwnewch yn siwr eich bod yn dewis y tocyn cywir ar gyfer eich dewis iaith.
• Os ydych chi'n archebu tocynnau BSL ar gyfer digwyddiadau Cwrdd â Siôn Corn, ac yn bwriadu cyfuno'r digwyddiad hwn gydag unrhyw un o'r sesiynau Nadolig eraill sydd wedi eu tocynnu, nodwch y bydd cyfieithydd ar y pryd BSL ar y dyddiau hyn ar gael yn y weithgaredd Crefftau Nadolig rhwng 12-1.30pm a'r weithgaredd Ysgrifennu Llythyr rhwng 2.30-4pm.
• Mae’r digwyddiad a’i weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer plant 3+ oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.
• Rhaid gadael pramiau y tu allan i’r adeiladau.
• Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn. Caniatewch hyd at 10 munud i gerdded o faes parcio yr Amgueddfa i fynedfa y digwyddiad tu cefn i'r Brif Adeilad.
• Dylid gwisgo dillad addas i’r tywydd. Bydd gofyn i chi aros y tu allan tan amser cychwyn eich sesiwn.
• Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £7 y diwrnod am barcio.
• Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
• Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.
• Byddwch yn derbyn cadarnhad archeb ar ôl prynu eich tocynnau, a byddwch yn derbyn eich e-docyn 2 ddiwrnod cyn eich digwyddiad.
• Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu eich tocyn i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
 
Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%, dewch yn aelod heddiw
 
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
 
Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People's Postcode Lottery.

 

Digwyddiadau Nadoligaidd eraill i'r teulu yn Sain Ffagan:

Ysgrifennu'ch Llythyr Nadolig yn Ysgol Maestir

Crefftau Nadolig

Helfa'r Nadolig: Ceirw Coll

Canu yn y Capel  
 

Gwybodaeth

30 Tachwedd–1, 7–8, 14–15 a 21–22 Rhagfyr 2024, Slotiau amser 10am-5.30pm
Pris £10
Addasrwydd 3+
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

Ar Agor 10am-5pm bob dydd

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau