• Rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw. Mae llefydd yn gyfyngedig.
• Bydd gan ddeiliaid tocynnau fynediad at y weithgaredd yma unwaith ar y diwrnod sydd wedi ei archebu. Nid oes amser dechrau penodol - gall deiliaid tocynnau gymryd rhan ar sail galw heibio rhwng 10am-1pm a 2-4.30pm. Os yw'r weithgaredd yn brysur pan fyddwch chi'n cyrraedd, efallai y bydd angen i chi aros ychydig o funudau nes bod lle ar gael. Rydym yn annog deiliaid tocynnau i gyrraedd yn brydlon, a dim hwyrach na 4pm i'r weithgaredd olaf, i sicrhau y gallwch chi wneud popeth cyn i'r Amgueddfa gau.
• Mae angen tocyn ar gyfer pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Oherwydd prinder lle yn yr adeiladau, dim ond dau oedolyn/gofalwr gaiff fod efo pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Does dim angen tocyn ar gyfer plant bach o dan 3 oed neu fabanod mewn breichiau, ond ni fyddant yn cymryd rhan yn y weithgaredd.
• Caiff y sesiynau eu cynnal yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), gyda chyfieithydd ar y pryd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael yn y weithgaredd yma bob dydd Sul rhwng 12-1.30pm.
• Nodwch nad yw'r digwyddiad hwn yn cynnwys profiad gyda Siôn Corn - mae gyda ni ddigwyddiad Cwrdd â Siôn Corn y mae angen ei archebu ar wahân. Gweler isod fanylion digwyddiadau a phrofiadau Nadoligaidd eraill y gellir eu harchebu i lenwi eich diwrnod gyda hwyl yr ŵyl.
• Mae’r digwyddiad Crefftau Nadolig wedi'i gynllunio ar gyfer plant 3+ oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.
• Rhaid gadael pramiau y tu allan i’r adeiladau.
• Os ydych chi'n cyfuno'r digwyddiad hwn gydag unrhyw un o'r sesiynau Nadolig eraill, gadewch hyd at 15 munud i gerdded o un gweithgaredd i'r llall.
• Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £7 y diwrnod am barcio.
• Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd