Digwyddiad:Ysgrifennu'ch Llythyr Nadolig yn Ysgol Maestir

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Mae'r corachod yn brysur yn gweithio ar restr plant da am eleni. Bydd cyfle i bob plentyn ymweld ag Ysgol Maestir i gwrdd ag un o Gorachod Siôn Corn ac ysgrifennu eu llythyr arbennig, cyn galw heibio'r Swyddfa Bost i'w anfon i Begwn y Gogledd.

Archebu tocynnau

Gwybodaeth Bwysig:

• Rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw. Mae llefydd yn gyfyngedig.
• Bydd gan ddeiliaid tocynnau fynediad at y weithgaredd yma unwaith ar y diwrnod sydd wedi ei archebu. Nid oes amser dechrau penodol - gall deiliaid tocynnau gymryd rhan ar sail galw heibio rhwng 10am-1pm a 2-4.30pm. Os yw'r weithgaredd yn brysur pan fyddwch chi'n cyrraedd, efallai y bydd angen i chi aros ychydig o funudau nes bod lle ar gael. Rydym yn annog deiliaid tocynnau i gyrraedd yn brydlon, a dim hwyrach na 4pm i'r weithgaredd olaf, i sicrhau y gallwch chi wneud popeth cyn i'r Amgueddfa gau.
• Mae angen tocyn ar gyfer pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Oherwydd prinder lle yn yr adeiladau, dim ond dau oedolyn/gofalwr gaiff fod efo pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Does dim angen tocyn ar gyfer plant bach o dan 3 oed neu fabanod mewn breichiau, ond ni fyddant yn cymryd rhan yn y weithgaredd.
• Caiff y sesiynau eu cynnal yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), gyda chyfieithydd ar y pryd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael yn y weithgaredd yma bob dydd Sul rhwng 2.30-4.30pm.
• Nodwch nad yw'r digwyddiad hwn yn cynnwys profiad gyda Siôn Corn - mae gyda ni ddigwyddiad Cwrdd â Siôn Corn y mae angen ei archebu ar wahân. Gweler isod fanylion digwyddiadau a phrofiadau Nadoligaidd eraill y gellir eu harchebu i lenwi eich diwrnod gyda hwyl yr ŵyl.
• Mae’r digwyddiad Ysgrifennu Llythyr wedi'i gynllunio ar gyfer plant 3+ oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.
• Rhaid gadael pramiau y tu allan i’r adeiladau.
• Caniatewch hyd at 10 munud i gerdded o faes parcio yr Amgueddfa i Ysgol Maestir. Os ydych chi'n cyfuno'r digwyddiad hwn gydag unrhyw un o'r sesiynau Nadolig eraill, gadewch hyd at 15 munud i gerdded o un gweithgaredd i'r llall.
• Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £7 y diwrnod am barcio.
• Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
• Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.
• Byddwch yn derbyn cadarnhad archeb ar ôl prynu eich tocynnau, a byddwch yn derbyn eich e-docyn 2 ddiwrnod cyn eich digwyddiad.
 
Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%, dewch yn aelod heddiw
 
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
 
Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Logos ar gyfer People's Postcode Lottery and Postcode Culture Trust

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

 

Gwybodaeth

21–22 Rhagfyr 2024, 10am-1pm & 2-4.30pm
Pris £4
Addasrwydd 3+
Person yn dal llythyr gyda sêl goch ar y cefn.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau