Digwyddiad:Helfa'r Nadolig: Ceirw Coll

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Helpwch ni i achub y Nadolig!

Mae'r corachod bach drygionus wedi gadael drysau'r stabl ar agor, ac mae ceirw Siôn Corn wedi dianc a chuddio ar hyd llwybrau'r amgueddfa! Gyda Noswyl Nadolig yn prysur agosáu, mae angen eich help arnom i ddod o hyd iddynt a dod â nhw yn ôl i Begwn y Gogledd mewn pryd ar gyfer noson bwysicaf y flwyddyn.

 

Gwybodaeth Bwysig

• Nifer cyfyngedig o daflenni'r helfa sydd ar gael.  
• Nid yw tocynnau i'r helfa yn ad-daladwy ac ni ellir eu cyfnewid am unrhyw safle na digwyddiad arall.  
• Sganiwch eich tocyn digidol gydag aelod o staff ar y safle er mwyn casglu eich taflen helfa a’r wobr.  
• Gall deiliaid tocynnau gwblhau'r helfa unrhyw bryd rhwng 30 Tachwedd a 22 Rhagfyr 2024, fodd bynnag dim ond unwaith y gellir defnyddio pob tocyn yn ystod y cyfnod hwn.  
• Iaith: Mae'r taflenni'n ddwyieithog.      
• Oedran: Addas ar gyfer plant 4+ oed, efallai y bydd angen help ar blant iau.  
• Cost: Mae'r gost yn cynnwys un daflen helfa ac un wobr. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.  
• Lle bo'n bosibl, rydyn ni wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto.  
• Bydd y rhan fwyaf o'r helfa yn Sain Ffagan yn yr awyr agored, felly gwisgwch ddillad ac esgidiau sy'n addas ar gyfer pob tywydd.  
• Os ydych chi'n cyfuno'r digwyddiad hwn gydag unrhyw un o'r sesiynau Nadolig eraill, bydd modd i chi gwblhau'r helfa wrth i chi gerdded o amgylch y safle o un gweithgaredd i'r llall.  
• Sylwer: Rydym yn disgwyl bod yn brysur iawn dros benwythnosau mis Rhagfyr yn enwedig. Gall y tywydd effeithio ar ein gallu i barcio ceir yn y maes parcio ychwanegol ac efallai y bydd yn rhaid i chi giwio am le parcio.  
• Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £7 y diwrnod am barcio.

Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%, dewch yn aelod heddiw
 
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
 
Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People's Postcode Lottery.

 

Digwyddiadau Nadoligaidd eraill i'r teulu yn Sain Ffagan:

Cwrdd â Siôn Corn

Ysgrifennu'ch Llythyr Nadolig yn Ysgol Maestir

Crefftau Nadolig

Canu yn y Capel 
 

Gwybodaeth

30 Tachwedd–22 Rhagfyr 2024, 10am-4pm
Pris £3.50
Addasrwydd 4+
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
22 December 2024 16:00 Gweld Tocynnau

Ymweld

Oriau Agor

Ar Agor 10am-5pm bob dydd

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau