Digwyddiad:Diwali Mela
Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Ddiwylliannol Hindŵaidd Cymru India i gynnal Diwali Mela yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Yn ogystal â stondinau bwyd, cerddoriaeth, a pherfformiadau dawns, bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai Dawns Dandiya, ioga Indiaidd, celf corff Mehndi a storïa Clasurol o India.
Bydd gweithgareddau celf a chrefft am ddim ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Bydd y lleoliad wedi'i addurno ag arteffactau, tecstilau a chelf Rangoli o India. Mae Cynhyrchwyr Ifanc Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda Chanolfan India i helpu i gyflwyno a churadu cynnwys ar gyfer y dathliad hwn o Diwali.
Gweithgaredd ychwanegol i’w archebu!
Sesiynau yoga a myfyrio
Ymunwch â ni am gyfres o sesiynau taith yoga sy’n anelu i dawelu, adfer a bywiogi eich meddwl a’ch corff. Mae’r sesiynau yn diwallu anghenion pobl o bob gallu.
“Os allwch chi anadlu, gallwch chi wneud e!”
Anadlu Adferol
11:30am, 12:30pm & 1:30
40 munud
Canolfan Ddysgu Weston
Stiwdio 1
Bydd y sesiynau yn cael eu harwain gan hyfforddwyr, iddyn nhw eich tywys drwy ymarfer anadlu yogig (pranayama). Gall pranyama ddod â’r meddwl i’r presennol yn gyflym a lleihau straen, ac fe’i hystyrir yn hanfodol ar gyfer datblygu llesiant corfforol, myfyrio, ymwybyddiaeth, a goleuedigaeth.
Mae’r sesiynau yn diwallu anghenion pobl o bob gallu.
Gwybodaeth
Tocynnau
19 October 2024
Amseroedd ar gael | |
---|---|
Sold Out | |
Sold Out | |
Sold Out |