Cwrs:Gwehyddu Lliain Cul Nadoligaidd
Hoffech chi droi eich llaw at wehyddu? Beth am roi cynnig arni yn y cwrs undydd hwn, dan arweiniad y Tawe Guild of Weavers, Spinners and Dyers? Byddwch chi’n defnyddio gwŷdd brwydau i greu lliain cul Nadoligaidd i addurno’r bwrdd. Mae’r gweithdy hwn yn addas i ddechreuwyr a’r rheiny sydd â rhywfaint o brofiad o wehyddu ac sydd am ailafael yn y grefft.
Bydd yr holl offer a deunyddiau’n cael eu darparu. Dewch â’ch hunan a’ch brwdfrydedd!
Gwybodaeth Bwysig
- Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
- Cynhelir y cwrs yma yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Defnyddiwch god post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.
- Gallwch barcio yn y maes parcio i ymwelwyr, codir tâl o £6 a gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn
- Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
- Mae'r cwrs hwn yn 16+ ac mae'n rhaid i bobl ifanc 16-18 oed fod yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan.
- Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Cliciwch isod i gofrestru ar gyfer y rhestr bostio a’r rhestr aros ar gyfer ein cyrsiau fel eich bod yn cael eich hysbysu pan gyhoeddir cyrsiau newydd neu pan ddaw llefydd yn rhydd ar gyrsiau llawn.
Ymunwch â ni | Amgueddfa Cymru
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
Gwybodaeth
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
7 December 2024 | Sold Out |