Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Y Gwanwyn yn Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch a ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru i ddathlu dechrau'r Gwanwyn, drwy ymweld â'r defaid beichiog ar fferm Llwyn-yr-Eos, cyn hau hadau i fynd adref gyda chi.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Cyfle i grwydro a mwynhau'r amgueddfa allanol
  • Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa. Mae'r daith yn para tua 3 awr, gyda digon o oedi a lluniaeth.

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Sain Ffagan.

Mae'r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llawI archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.

Wedi'i ariannu gan

Community Fund

Gwybodaeth

5 Mawrth 2026, 1-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Mae dau berson o flaen corlan fetel sy’n llawn defaid yn gorffwys ar wellt.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau