Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Dyma arddangosfa gan Teilwr Bach mewn cydweithrediad ag Oasis Caerdydd, wedi’i hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae’r arddangosfa’n dathlu teilwra traddodiadol a phrintio sgrin, yn hyrwyddo ffasiwn araf ac yn archwilio hanes a threftadaeth wlân Cymru.
Cyflwynir cotiau, siacedi a chrysau gwlân wedi’u teilwra a wnaed o hen garthenni neu ddefnydd a wehyddwyd yng Nghymru. Mae’r dillad wedi eu dylunio a’u creu gan Catherine Davies (Teilwr Bach), heblaw am un got sydd wedi’i chreu gan Clare Johns Label.
Tu fewn i bob dilledyn mae yna leinin ag arni batrwm print sgrin unigryw sy’n berthnasol i’r defnydd neu’r garthen. Artistiaid lleol sydd wedi dylunio’r patrymau hyn gan ddwyn eu hysbrydoliaeth o’r melinau neu ffatrïoedd gwlân perthnasol, y broses wehyddu, yr amgylchfyd naturiol a hanes lleol. Printiwyd y defnydd leinin â llaw gan The Printhaus, Caerdydd.
Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Oasis Caerdydd wedi bod yn dysgu sgiliau gwnïo gan weddnewid sbarion defnydd y project yn sliperi, bagiau a selsig drws. Bydd y rhain ar werth yn siop yr Amgueddfa yn ystod yr arddangosfa, gyda’r elw yn mynd yn ôl i Oasis.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd