Digwyddiad:Sain Ffagan yn Ysbrydoli Tecstilau

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ymunwch â grŵp tecstilau Cutting Edge yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn 25 a 26 Ebrill 2025, yn Gweithdy rhwng 10am a 4pm. Byddwn ni’n arddangos gwaith wedi’i ysbrydoli gan Sain Ffagan – o ddefnyddiau unigol a gwaith cyfrwng cymysg, i gardiau post a chwilt Monopoli Sain Ffagan.

Bydd hi hefyd yn Wythnos Ryngwladol Pontio'r Cenedlaethau, ac rydyn ni wrth ein bodd bod yr Amgueddfa wedi ein gwahodd ni i rannu ein sgiliau. Bydd cyfle i gwrdd ag aelodau Cutting Edge a rhoi cynnig ar grefftau addas i bob oed. Mae'n gyfle perffaith i rannu gwybodaeth a sgiliau, cael eich ysbrydoli neu fwynhau sgwrs. 

Cafodd grwp Cutting Edge ei sefydlu 13 mlynedd yn ôl. Mae'n grŵp anffurfiol o unigolion sy'n hoffi gwnïo, cwiltio, brodio a/neu crosio. Rydyn ni hefyd yn cynnal sesiynau Dyeing to Paint ar gyfer aelodau sydd am arbrofi gyda lliwio ffabrig.

Gallwch chi ddysgu mwy am ein gweithgareddau a'n projectau ar flog Cutting Edge

Galwch draw ar y diwrnod i weld ein gwaith, cymryd rhan yn un o'n gweithgareddau a dweud helo. Byddwn ni wrth ein bodd eich gweld chi! 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â mdennis.wales@gmail.com.

Gwybodaeth

25 a 26 Ebrill 2025, 10am-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Oedrannau: Addas i bawb

Ymweld

Oriau Agor

Ar Agor 10am-5pm bob dydd

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

> Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau