Digwyddiad:Dydd Gŵyl Dewi

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Lle gwell i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru?

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu’r diwrnod arbennig hwn gyda:

  • Cyfle i weld casgliad arbennig o delynau a chadeiriau Eisteddfod o storfa Amgueddfa Cymru.
  • Cerddoriaeth fyw ar y delyn am 10.30am, 11.30am, 1.30pm a 2.30pm.
  • Dawnsio gwerin traddodiadol am 1.30pm a 3pm.
  • Perfformiadau gan gerddorion a chlocswyr Trac Cymru am 10am, 11.15am, 12.30pm, 2.15pm a 3.15pm. 
  • Cyfle i gamu i mewn i'r gegin hanesyddol yn Llwyn-yr-eos wrth i'r teulu baratoi at y gwanwyn am 11am-1pm a 2-4pm.
  • Gweithgareddau crefft teuluol am ddim drwy gydol y diwrnod.
  • Cyfle i ddysgu sut i hau hadau treftadaeth gyda'r elusen garddio gynaliadwy Garden Organic. Fel rhan o benblwydd Llyfrgell Hadau Treftadaeth (Heritage Seed Library) yn 50 oed, mae’r elusen yn cynnal Ras Gyfnewid Hadau unigryw ac yn rhannu hadau treftadaeth gwerthfawr gyda chymunedau a sefydliadau ledled Cymru’r gwanwyn hwn.
  • Dechrau'r tymor wyna yn Fferm Llwyn-yr-eos. 
     

Ydych chi'n bwriadu mynychu'r digwyddiad?

Cofrestrwch eich diddordeb 


Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Gwybodaeth

1 Mawrth 2026, 10am-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Dawnswyr mewn gwisgo traddodiadol yn perfformio tu fas i Kennixton
Rhes o delynau Cymreig yn erbyn wal frics ddu
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau