Digwyddiad:Helfa Basg: Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ymunwch â ni dros y Pasg am antur llawn hwyl yn Sain Ffagan!

Mae ein helfa Basg blynyddol yn berffaith i deuluoedd ac archwilwyr bach fel ei gilydd. Allwch chi ganfod eich ffordd o gwmpas adeiladau, tiroedd ac orielau Sain Ffagan? Bydd angen i chi ddatrys posau a datgelu cliwiau, cyn cychwyn ar helfa i ddod o hyd i’r wyau Pasg lliwgar sydd wedi’u cuddio o amgylch yr Amgueddfa.     

Sut mae’n gweithio:

  • Casglwch eich taflen helfa wrth y fynedfa
  • Datryswch y cliwiau i ddod o hyd i’r wyau Pasg sydd wedi’u cuddio ar draws yr amgueddfa
  • Mae gan bob wy mawr batrwm unigryw a lliwgar i chi ei gopïo ar eich taflen helfa
  • Cwblhewch yr helfa a mwynhewch eich gwobr felys! *

* Y wobr fydd lolipop siocled. Mae opsiwn di-laeth a fegan ar gael ar gais – nodwch y dewis hwn wrth archebu eich tocynnau

Archebu tocynnau

 

Gwybodaeth Bwysig

  • Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael bob dydd.
  • Nid yw tocynnau i’r helfa yn ad-daladwy ac ni ellir eu cyfnewid am unrhyw ddyddiad, safle na digwyddiad arall. Bydd yn rhaid i ddeiliaid tocynnau gasglu eu taflen helfa a’r wobr ar y diwrnod maent wedi ei archebu.
  • Sganiwch eich tocyn digidol gydag aelod o staff ar y safle er mwyn casglu eich taflen helfa a’r wobr.
  • Iaith: Mae’r taflenni’n ddwyieithog.
  • Oedran: Addas ar gyfer plant 4+ oed, efallai bydd plant iau eisiau gweithio mewn tîm gydag oedolion.
  • Cost: Mae’r gost yn cynnwys un daflen helfa ac un wobr. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person/plentyn.
  • Bydd y rhan fwyaf o’r helfa yn Sain Ffagan yn yr awyr agored, felly gwisgwch ddillad ac esgidiau sy’n addas ar gyfer pob tywydd.
  • Sylwer: Rydym yn disgwyl bod yn brysur iawn yn ystod y gwyliau ysgol a dros benwythnos y Pasg yn enwedig. Gall y tywydd effeithio ar ein gallu i barcio ceir yn y maes parcio ychwanegol ac efallai y bydd yn rhaid i chi giwio am le parcio.
  • Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £7 y diwrnod am barcio. 
  • Cyngor ar alergenau: Mae’r wobr siocled yn cynnwys soia, llaeth buwch a gall gynnwys olion cnau. Mae’r wobr fegan yn siocled sy’n gyfeillgar i alergenau sydd heb laeth, heb glwten, heb soia ac yn addas ar gyfer feganiaid.
     

Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%, dewch yn aelod heddiw

 
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
 
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.


 

Gwybodaeth

12–21 Ebrill 2025, 10am-4pm
Pris £4 y daflen
Addasrwydd 4+
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Digwyddiadau perthnasol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
12–21 Ebrill 2025, 10am - 4pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
18 Ebrill 2025, 12 - 3.30pm
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
18–21 Ebrill 2025, 10am - 3.30pm
Amgueddfa Wlân Cymru
Ddydd Sadwrn 29 Mawrth, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 1-5 Ebrill. 8-12 Ebrill, 15-19 Ebrill, 22-26 Ebrill. , 10yb - 4yp

Mwy o gynnwys

gan Meinwen Ruddock-Jones
31 Mawrth 2020

Ymweld

Oriau Agor

Ar Agor 10am-5pm bob dydd

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

> Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau