Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae eleni'n garreg filltir arbennig i ni! 20 mlynedd o ddathliadau Diwali ar y cyd â Chymdeithas Ddiwylliannol Hindŵaidd Cymru a Chanolfan India Cymru.
Diwali Mela, neu Gŵyl y Golau, yw'r dathliad blynyddol o fuddugoliaeth ysbrydol y golau’n erbyn y tywyllwch, da yn trechu’r drwg, gwybodaeth yn trechu anwybodaeth. Mae ein Diwali Mela ni yn dod â hyn yn fyw mewn dathliad llawn lliw, cerddoriaeth, blas a hapusrwydd. Mae croeso i bob cymuned ddod ynghyd a dathlu un o brif wyliau y calendr Hindŵaidd.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu dwy ddegawd o olau, diwylliant a chymuned yn Sain Ffagan yn ein dathliad mwyaf lliwgar eto. Dewch i fwynhau'r bwyd a'r gerddoriaeth, neu i ymgolli yn yr awyrgylch - mae rhywbeth yma i bawb.
Beth i'w ddisgwyl:
• Cerddoriaeth a dawnsio byw o draddodiadau amrywiol, yn llenwi'r Amgueddfa â rhythm, egni a hapusrwydd. • Yoga chwerthin yn yr Atriwm yn gyfle i bawb gymryd anadl ac ymlacio drwy ein gofidion a chymryd amser i adfer. • Bydd yr Amgueddfa yn cael ei haddurno ag arteffactau a thecstilau Indiaidd a chelf Rangoli. • Marchnad o fwyd stryd Indiaidd traddodiadol, danteithion melys a chrefftau. • Gweithgareddau celf a chrefft i blant, teuluoedd a phobl ifanc. • Stondin gwisgo Saree, yn rhoi cyfle i ddysgu sut i daenu a gwisgo'r wisg draddodiadol Indiaidd brydferth. • Addurniadau corff Mehndi (henna). Cyfle i addurno'ch dwylo (dros dro) â phatrymau prydferth yn llawn canrifoedd o draddodiad.
Mynediad AM DDIM ac mae croeso i bawb!
Gweithgaredd ychwanegol i'w archebu! (llefydd cyfyngedig)
Sesiwn Yoga Stiwdio 1 1:40pm & 2:20 | 40 mun
Mae croeso i bawb i'w Diwali cyntaf neu eu canfed! Dewch draw i ddathlu a bod yn rhan o rywbeth arbennig iawn.
Cofrestru diddordeb
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd