Digwyddiad:Cwrdd â’r Fictoriad

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Trowch yn ôl mewn amser a darganfyddwch sut oedd bywyd bob dydd i blant yng Nghymru yn ystod yr oes Fictoraidd. Ymunwch â ni yn Ysgol Maestir i gwrdd â’r athro ac archwilio trefnau llym, gwersi ailadroddus ac arferion ymddygiadol y cyfnod.


Bydd eich tywysydd yn cyflwyno hanes addysg Fictoraidd, gan ddod â’r rheolau, y gwobrau a’r cosbau a luniodd brofiad dyddiol y disgyblion yn fyw. Cewch gyfle i drin gwrthrychau gwirioneddol a replica, a chymryd lluniau mewn gwisg gyfnod.

Sesiynau Saesneg: 11am, 12pm a 2pm 

Sesiwn Cymraeg: 3pm 

  • Mae’r gweithdy hwn yn digwydd yn Ysgol Maestir, sydd tua 5 munud o gerdded o’r prif fynedfa.
    Oherwydd natur yr adeilad hanesyddol, rhaid gadael pramiau tu allan yn y bae dynodedig.
    Ni chaniateir bwyta nac yfed y tu mewn i’r adeiladau hanesyddol.
     

Gwybodaeth

26–29 Awst 2025, 11am, 12pm, 2pm a 3pm
Pris £6
Addasrwydd 6+
Archebu lle Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw
Dyn yn gwisgo siwt ac yn dal ffon yn sefyll y tu allan i Ysgol Maestir
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau