Digwyddiad:Helfa'r Nadolig: Ceirw Coll

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Mae ganddon ni wledd Nadoligaidd i chi eto eleni. Bob penwythnos ym mis Rhagfyr byddwn ni'n cynnal amrywiaeth o weithgareddau i'ch helpu chi fynd i hwyl yr ŵyl.

Dewch i weld yr adeiladau hanesyddol wedi'u haddurno fel y bydden nhw dros y Nadolig yn eu hoes nhw, blasu bwyd a diod y tymor yn ein bwyty, neu fwynhau un o'n digwyddiadau dathlu. 

Rydyn ni hefyd yn disgwyl i un o gymeriadau mawr yn ŵyl i ymweld! Cadwch lygad amdano pan fyddwch chi'n galw draw...

Helfa'r Nadolig: Ceirw Coll

Helpwch ni i achub y Nadolig!

Mae'r corachod bach drygionus wedi gadael drysau'r stabl ar agor, ac mae ceirw Siôn Corn wedi dianc a chuddio ar hyd llwybrau'r amgueddfa! Gyda Noswyl Nadolig yn prysur agosáu, mae angen eich help arnom i ddod o hyd iddynt a dod â nhw yn ôl i Begwn y Gogledd mewn pryd ar gyfer noson bwysicaf y flwyddyn.

Gwybodaeth Bwysig

  • Casglwch daflen a phensil er mwyn canfod y ceirw a chwbwlhau'r llwybr.
  • Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.
  • Nid yw tocynnau i'r helfa yn ad-daladwy ac ni ellir eu cyfnewid am unrhyw safle na digwyddiad arall.
  • Sganiwch eich tocyn digidol gydag aelod o staff ar y safle er mwyn casglu eich taflen helfa.
  • Gall deiliaid tocynnau gwblhau'r helfa unrhyw bryd rhwng 29 Tachwedd a 23 Rhagfyr 2025, fodd bynnag dim ond unwaith y gellir defnyddio pob tocyn yn ystod y cyfnod hwn.
  • Iaith: Mae'r taflenni'n ddwyieithog.
  • Oedran: Addas ar gyfer plant 4+ oed, efallai y bydd angen help ar blant iau.
  • Lle bo'n bosibl, rydyn ni wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto.
  • Bydd y rhan fwyaf o'r helfa yn Sain Ffagan yn yr awyr agored, felly gwisgwch ddillad ac esgidiau sy'n addas ar gyfer pob tywydd.
  • Sylwer: Rydym yn disgwyl bod yn brysur iawn dros benwythnosau mis Rhagfyr yn enwedig. Gall y tywydd effeithio ar ein gallu i barcio ceir yn y maes parcio ychwanegol ac efallai y bydd yn rhaid i chi giwio am le parcio.
  • Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £7 y diwrnod am barcio.

Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%, dewch yn aelod heddiw.

Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.

Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Logos ar gyfer People's Postcode Lottery and Postcode Culture Trust

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Gwybodaeth

29 Tachwedd–23 Rhagfyr 2025, 10am - 3pm
Pris £1
Addasrwydd 4+
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau