Digwyddiad:Marchnad Grefftwyr Nadolig
Mae ganddon ni wledd Nadoligaidd i chi eto eleni. Bob penwythnos ym mis Rhagfyr byddwn ni'n cynnal amrywiaeth o weithgareddau i'ch helpu chi fynd i hwyl yr ŵyl.
Dewch i weld yr adeiladau hanesyddol wedi'u haddurno fel y bydden nhw dros y Nadolig yn eu hoes nhw, blasu bwyd a diod y tymor yn ein bwyty, neu fwynhau un o'n digwyddiadau dathlu.
Rydyn ni hefyd yn disgwyl i un o gymeriadau mawr yn ŵyl i ymweld! Cadwch lygad amdano pan fyddwch chi'n galw draw...
Marchnad Grefftwyr Nadolig
Dewch i'r Marchnad Nadolig gyda chrefftau ac anrhegion unigryw ar werth, lle perffaith i ganfod danteithion ac anrhegion Nadoligaidd.
Mae Marchnad Grefftwyr Sain Ffagan yn rhoi llwyfan i dalentau creadigol rhagorol lleol. Mae amrywiaeth o stondinau, gyda rhai'n newid bob dydd, yn gwerthu crochenwaith, nwyddau wedi'u gwneud â llaw, gemwaith, tecstilau a mwy.
DB Gallery
Peggy's Crafty Makes
Shan Croft
- Sylwer: gall fod newidiadau munud ola i'r stondinau yn y rhestr uchod.
- Os yw'r tywydd yn wael, cadwch lygad ar y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr bod y Farchnad yn dal i gael ei chynnal.
- Os bydd y farchnad yn cael ei chanslo, neu stondin benodol yn gorfod canslo ar y funud ola, ni all yr Amgueddfa ad-dalu costau parcio.
- Gwiriwch gyda South Wales Maker's Market cyn teithio'n unswydd.
Gwybodaeth
Lesley Jane Jewellery
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd