Digwyddiad:Postio llythyr i Siôn Corn o Swyddfa Bost Blaen-waun

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Mae ganddon ni wledd Nadoligaidd i chi eto eleni. Bob penwythnos ym mis Rhagfyr byddwn ni'n cynnal amrywiaeth o weithgareddau i'ch helpu chi fynd i hwyl yr ŵyl.
Dewch i weld yr adeiladau hanesyddol wedi'u haddurno fel y bydden nhw dros y Nadolig yn eu hoes nhw, blasu bwyd a diod y tymor yn ein bwyty, neu fwynhau un o'n digwyddiadau dathlu. 

Rydyn ni hefyd yn disgwyl i un o gymeriadau mawr yn ŵyl i ymweld! Cadwch lygad amdano pan fyddwch chi'n galw draw...

Postio llythyr i Siôn Corn o Swyddfa Bost Blaen-waun

Os ydych chi wedi ysgrifennu llythyr i Siôn Corn ac am ei anfon mewn steil, dewch draw i Swyddfa Bost Blaen-waun - y lleiaf yng Nghymru! 


Bydd y postfeistr yn stampio eich amlen ac yn gwneud yn siŵr y bydd eich llythyr yn cyrraedd Pegwn y Gogledd mewn pryd. Er mwyn rhoi digon o amser i Siôn Corn dderbyn eich llythyr, galwch draw rhwng 10.30am - 1pm a 2-3pm ar ddydd Sadwrn 29 Rhagfyr. 


Gallwch chi bostio eich llythyr am ddim ar 29 Tachwedd am ddim.
 

Gwybodaeth

29 Tachwedd 2025, 10.30am – 1pm a 2pm-3.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau