Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae ganddon ni wledd Nadoligaidd i chi eto eleni. Bob penwythnos ym mis Rhagfyr byddwn ni'n cynnal amrywiaeth o weithgareddau i'ch helpu chi fynd i hwyl yr ŵyl.
Dewch i weld yr adeiladau hanesyddol wedi'u haddurno fel y bydden nhw dros y Nadolig yn eu hoes nhw, blasu bwyd a diod y tymor yn ein bwyty, neu fwynhau un o'n digwyddiadau dathlu.
Rydyn ni hefyd yn disgwyl i un o gymeriadau mawr yn ŵyl i ymweld! Cadwch lygad amdano pan fyddwch chi'n galw draw...
Galwch draw i ffermdy Llwyn-yr-Eos i weld sut mae meistres y tŷ yn paratoi, a dysgu mwy am ddathliadau'r Nadolig yn y 1930au.
Gallwch chi weld yr addurniadau a pa fwyd fydden nhw'n ei baratoi.
Bydd meistres y tŷ i mewn ac yn croesawu ymwelwyr rhwng 10.30am-1pm a 2pm-3.30pm ar ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd