Digwyddiad:Traddodiadau'r Nadolig: Perfformiadau Y Fari Lwyd a Hela'r Dryw
Mae ganddon ni wledd Nadoligaidd i chi eto eleni. Bob penwythnos ym mis Rhagfyr byddwn ni'n cynnal amrywiaeth o weithgareddau i'ch helpu chi fynd i hwyl yr ŵyl.
Dewch i weld yr adeiladau hanesyddol wedi'u haddurno fel y bydden nhw dros y Nadolig yn eu hoes nhw, blasu bwyd a diod y tymor yn ein bwyty, neu fwynhau un o'n digwyddiadau dathlu.
Rydyn ni hefyd yn disgwyl i un o gymeriadau mawr yn ŵyl i ymweld! Cadwch lygad amdano pan fyddwch chi'n galw draw...
Traddodiadau'r Nadolig
Dewch draw i weld dau o brif arferion tymor y Nadolig yng Nghymru - Y Fari Lwyd a Hela'r Dryw - yng nghwmni Cwmni Dawns Werin Caerdydd.
Mae'r dathliadau hynafol, rhyfedd hyn yn cynnwys canu, dawnsio a phenglog ceffyl!
* Fydd dim drudwns yn cael niwed!
Lleoliad
Wrth y Tolldy (adeilad rhif 16 ar y Map o'r safle) neu, os yw'r tywydd yn wlyb, gofynnwch yn yr Oriel Groeso.
Dysgwch fwy am y traddodiadau
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd