Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae Sain Ffagan yn defnyddio ei chasgliadau i ddehongli bywyd yng Nghymru ddoe a heddiw. Bydd y daith am ddim hon i oedolion B/byddar a defnyddwyr BSL yn cynnwys taith gerdded drwy'r amgueddfa awyr agored, i ddysgu am rai o'r adeiladau sydd wedi'u symud i Sain Ffagan a'u harwyddocâd wrth siapio treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio cartrefi'r gweithwyr haearn yn nhai teras Rhyd-y-car o Ferthyr Tudful, y Prefab o Gabalfa yng Nghaerdydd, ac adeilad eiconig Sefydliad y Gweithwyr Oakdale.
Bydd y daith hamddenol hon yn cael ei chynnal yn Iaith Arwyddion Prydain gan y tywysydd Emily Rose Corby.
Mae'r daith hon yn rhan o gyfres o deithiau Iaith Arwyddion Prydain a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. Cadwch lygad ar wefan yr Amgueddfa am ragor o wybodaeth a dyddiadau yn y dyfodol.
Rhybudd: Oherwydd natur y safle, mae tir anwastad, llwybrau llithrig, llethrau a mannau glaswelltog mewn mannau. Cymrwch ofal wrth gerdded a gwisgwch esgidiau addas. Cyfeiriwch at wefan Sain Ffagan am ein holl gallawiau mynediad.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd