Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am weithdy am ddim sy'n archwilio'r hanes Cwiar sy'n cael ei arddangos a thrafod sut y gallwn ymgysylltu â hanes Cwiar, hyd yn oed pan nad yw'r cysylltiad hwnnw'n weladwy’n syth.
Bydd y diwrnod yn cael ei rannu'n ddau, gydag amser i gael cinio rhyngddynt. Bydd y gweithdy hwn yn cael ei arwain gan Gynhyrchydd Amgueddfa Cymru (CAC), fel rhan o Bloedd. Mae Bloedd yn blatfform sy'n rhoi cyfle i Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru archwilio ein casgliadau cenedlaethol yn greadigol, gan gynnwys ehangu ein casgliadau LGBTQ+.
Bydd sesiwn y bore yn cynnwys cyflwyniad byr a chyfle i archwilio'r mannau oriel dan do, ac yna trafodaeth. Bydd y prynhawn yn cynnwys taith dywys tu allan. Byddwn yn mynd fel grŵp, ond bydd taflen waith yn cael ei darparu os yw'n well gennych archwilio ar eich cyflymder eich hun.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Saesneg, gydag adnoddau ar gael yn Saesneg a Chymraeg.
Nid oes rhaid i chi fod yn CAC i fynychu'r sesiwn hon.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd