Yr Orielau
Dewch i greu hanes gyda ni!...
Yn Sain Ffagan cewch weld hanes Cymru, ei rannu ag eraill, a helpu i’w greu hyd yn oed.
Cymru...
Yn yr oriel hon gallwch edrych ar hanes Cymru o sawl safbwynt, gan rannu eich teimladau a’ch profiadau chi. Cewch gamu i’r gorffennol trwy eitemau gwych o’n casgliadau, a lleisiau’r bobl oedd yn ymwneud â nhw.
Gallwch weld gweddillion bachgen ifanc Neanderthalaidd oedd yn byw yng Nghymru 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Pa mor wahanol oedd e i fachgen deg oed heddiw? Cewch glywed hefyd beth mae milwyr heddiw yn ei feddwl o’r eitemau a wnaed gan filwyr wedi’u hanafu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a beth yw barn pobl ifanc ar bleidlais datganoli 1997.
Byw a Bod
Dyma oriel sy’n canfod rhyfeddodau yn y pethau bychain.
Gwrandewch ar Luigi Rabaiotti yn sôn am y peiriant coffi ddaeth i Gymru o’r Eidal gyda’i deulu ym 1921. Edrychwch ar y dillad fu pobl yn eu gwisgo, Sul, gŵyl a gwaith – a gwisgo rhai eich hun. Mae cyfle i chwarae gemau, a chanu ambell gân ar y piano. Cawn gip ar y gwahanol ffyrdd o ddelio â marwolaeth dros y canrifoedd, a sut ydym yn cofio a choffáu ein hanwyliaid.
Oriel na welwyd mo’i thebyg yw hon – dathliad o sgiliau gwneuthurwyr ar draws y canrifoedd, a chyfle i chi roi cynnig ar rai o’r crefftau eich hun. Fe wnawn ni grefftwr ohonoch chi!...
Cewch ddysgu sut y bu pobl yn creu gwrthrychau hardd o goed, clai, carreg, metel, planhigion a thecstilau.