Ailagor yr Amgueddfa
Cwestiynau Cyffredin
Ydw i’n gallu dod â phicnic?
Oes mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Ydw i’n gallu dod a’r ci?
Mae croeso i gŵn ar y safle, ond rhaid eu cadw ar dennyn BYR ar bob adeg, os gwelwch yn dda.
Nodwch mai dim ond Cŵn Tywys sy’n cael mynediad i mewn i’r adeiladau a orielau.
Yw’r toiledau a chyfleusterau newid babi ar agor?
Mae ein toiledau a’r cyfleusterau newid babi yn parhau ar agor. Rydym wedi rhaglennu trefn lanhau estynedig ar gyfer y gofodau yma, a byddwn yn cyfyngu’r niferoedd all defnyddio’r cyfleusterau ar yr un pryd.
Bwyd a diod ar y safle
Bydd detholiad o ddiodydd poeth ac oer, byrbrydau, brechdanau a chacennau ar gael i’w prynu ar ddiwrnod eich ymweliad, edrychwch i weld beth sydd ar agor wrth gyrraedd. Talu â cherdyn yn unig.
Grwpiau
Cyngor i gwmniau bysiau
Pam mae’n rhaid i mi dalu i barcio?
Rydym wedi bod yn codi tâl am barcio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amguedddfa Werin Cymru ac yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ers nifer o flynyddoedd, a bydd hyn yn parhau. Elusen ydyn ni, ac mae pob ceiniog o elw o’r meysydd parcio yn cefnogi ein gwaith gyda chymunedau ledled Cymru.
Pryd fydd y cwrs rhaffau uchel ar agor?
Mae CoedLan ar agor ar benwythnosau, gwyliau banc a gwyliau ysgol.
Ydy’r adeiladau hanesyddol ar agor?
Bydd y profiad yn Sain Ffagan yn wahanol i’r arfer ac mae nifer cyfyngedig o’r adeiladau hanesyddol ar agor i chi ymweld.