Swyddi

Rydym yn cael problemau gydag ein tudalennau swyddi ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Glanhawr/wraig Rhan Amser (6 Swydd), Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Contract: Contract Parhaol. 20 Awr yr Wythnos.
Cyflog: Gradd A: £9,153.54 y flwyddyn.
Dyddiad cau: 22 Hydref 2018 (erbyn 5pm)

3 Swydd yn gweithio rota 5:00yh-9:00yh yn gweithio 2 penwythnos fesul 3.

3 Swydd yn gweithio rota 7:00yb-11:00yb yn gweithio 2 penwythnos fesul 3.

Nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i’r swydd yma, ond croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Sut i wneud cais

Llenwi'r ffurflenni ar y cyfrifiadur a'i dychwelyd i'n cyfeiriad e-bost ad.swyddi@amgueddfacymru.ac.uk (rydyn ni'n argymell cadw copi ar eich cyfrifiadur hefyd)

neu

Dalier sylw, bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflenni Archwilio Cefndir a Monitro cyn i ni brosesu eich cais.

Argraffu'r ffurflen, ei llenwi â llaw a'i dychwelyd i'r:

Adran AD,
Amgueddfa Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd CF10 3NP.

Defnyddiwch y darn o'r ffurflen gais dan y pennawd 'Y swydd yr ymgeisir amdani' i nodi'r glir ai swydd llawn neu rhan amser sydd gennych mewn golwg (neu'r ddwy).

Peidiwch ag anfon CV, dim ond ffurflenni cais gaiff eu hystyried.

Yn anffodus, oherwydd y nifer o geisiadau a ddisgwylir mewn perthynas â'r swydd hon ni fydd yn bosibl i ni ysgrifennu'n bersonol at bob ymgeisydd aflwyddiannus. Fodd bynnag, bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal fel arfer o fewn tair wythnos i'r dyddiad cau.

Noder, bydd y gost o anfon y ffurflen gais ac unrhyw atodiadau yn ôl i'r Adran Adnoddau Dynol yn fwy na phris un stamp dosbarth cyntaf.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.