Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Cafodd gwastraff o Big Pit ei daflu yma cyn i natur ei hawlio yn ôl gan greu ardal sy’n ecolegol bwysig.
Ffurfiwyd y domen o wastraff y pwll glo – tywodfaen, siâl a gwastraff tanddaearol arall. Dros y blynyddoedd, llosgodd y deunyddiau yma’n naturiol gan greu’r lludw coch a welir yma heddiw. Pan gafodd y gwastraff ei osod, dinistriwyd y planhigion a’r anifeiliaid lleol. Wedi i’r domen gael ei gorffen, crëwyd amgylchedd newydd ar ei phen a ddaeth yn gynefin i rywogaethau newydd.
Heddiw, mae sawl cynefin gwahanol yn yr ardal hon: rhostir, cors a glaswelltir asidig – â phob un yn cynnal nifer o rywogaethau sydd angen gofal cadwraethol. Mae pumed rhan o holl rhostir y byd yn y DU – felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gofalu am y cynefin hwn sydd o bwys rhyngwladol.
Dros amser, bydd y planhigion sydd wedi addasu’n arbennig i fyw yma yn newid cemeg y pridd. Wrth i’r pridd newid, bydd planhigion gwahanol yn cael eu denu fydd yn cymryd lle planhigion y rhostir yn y pen draw.
Er mwyn cynnal y cynefin unigryw hwn, bydd yn rhaid i bobl ymyrryd unwaith eto. Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn rhoi arweiniad ar reoli cynefinoedd o’r fath.
Mae difrod gan feiciau modur a cherbydau eraill yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth a sefydlogrwydd yr amgylchedd ôl-ddiwydiannol unigryw hwn. Mae’r cynefin bregus hwn wedi datblygu dros bron i gan mlynedd a gall gael ei ddinistrio mewn ychydig funudau.
Allwch chi weld y planhigion neu’r anifeiliaid yma?
Blaenoriaeth cadwraeth: (Coch) =Uchel (Ambr) = Canolig (Gwyrdd) = Isel.