O Domen i Drysor

Cafodd gwastraff o Big Pit ei daflu yma cyn i natur ei hawlio yn ôl gan greu ardal sy’n ecolegol bwysig.

Ffurfiwyd y domen o wastraff y pwll glo – tywodfaen, siâl a gwastraff tanddaearol arall. Dros y blynyddoedd, llosgodd y deunyddiau yma’n naturiol gan greu’r lludw coch a welir yma heddiw. Pan gafodd y gwastraff ei osod, dinistriwyd y planhigion a’r anifeiliaid lleol. Wedi i’r domen gael ei gorffen, crëwyd amgylchedd newydd ar ei phen a ddaeth yn gynefin i rywogaethau newydd.

Heddiw, mae sawl cynefin gwahanol yn yr ardal hon: rhostir, cors a glaswelltir asidig – â phob un yn cynnal nifer o rywogaethau sydd angen gofal cadwraethol. Mae pumed rhan o holl rhostir y byd yn y DU – felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gofalu am y cynefin hwn sydd o bwys rhyngwladol.

Gwarchod y Trysor

Dros amser, bydd y planhigion sydd wedi addasu’n arbennig i fyw yma yn newid cemeg y pridd. Wrth i’r pridd newid, bydd planhigion gwahanol yn cael eu denu fydd yn cymryd lle planhigion y rhostir yn y pen draw.

Er mwyn cynnal y cynefin unigryw hwn, bydd yn rhaid i bobl ymyrryd unwaith eto. Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn rhoi arweiniad ar reoli cynefinoedd o’r fath.

Mae difrod gan feiciau modur a cherbydau eraill yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth a sefydlogrwydd yr amgylchedd ôl-ddiwydiannol unigryw hwn. Mae’r cynefin bregus hwn wedi datblygu dros bron i gan mlynedd a gall gael ei ddinistrio mewn ychydig funudau.

Allwch chi weld y planhigion neu’r anifeiliaid yma?

  1. Crec penddu’r eithin - Saxicola torquata (Ambr) Drwy gydol y flwyddyn
  2. Llinos - Carduelis cannabina (Coch) Drwy gydol y flwyddyn
  3. Ehedydd - Alauda arvensis (Coch) Drwy gydol y flwyddyn
  4. Chwilen deigr werdd - Cicindela campestris (Gwyrdd) Mai-Gorffennaf
  5. Breision y cyrs - Emberiza schoeniclus (Coch) Drwy gydol y flwyddyn
  6. Brith perlog bach - Boloria selene (Ambr) Mai-Awst
  7. Fioled gyffredin - Viola riviniana (Gwyrdd) Blodau o Ebrill-Mehefin
  8. Blaenoriaeth cadwraeth: (Coch) =Uchel (Ambr) = Canolig (Gwyrdd) = Isel.

Blaenoriaeth cadwraeth: (Coch) =Uchel (Ambr) = Canolig (Gwyrdd) = Isel.