Ymchwil yn y maes digidol – astudiaethau achos

Sut y gallwn ddefnyddio ymchwil i wella rhyngweithio digidol â’r Amgueddfa a chysylltu â chynulleidfaoedd newydd yn awr ac yn y dyfodol?

Mae gwella rhyngweithio digidol â’r Amgueddfa yn un o amcanion allweddol Amgueddfa Cymru. Y wefan yw ‘wythfed safle cyhoeddus’ yr Amgueddfa ac mae’r profiad digidol yn un o bum blaenoriaeth sy’n llywio gwaith yr Amgueddfa. Mae a wnelo Strategaeth Cynnwys Digidol 2014-17 â chynyddu’r cynnwys digidol a gynhyrchir, darparu gwybodaeth am gasgliadau mewn modd agored a hygyrch, cynyddu cyfranogiad digidol a chymunedau ar-lein a gwella dulliau gweithredu yng nghyswllt dylunio a thechnoleg, y mae’r defnyddiwr yn ganolog iddynt.

Mae’r tîm Cyfryngau Digidol yn flaenllaw mewn gwaith ymchwil ar draws y sector amgueddfeydd byd-eang ynghylch sut y mae sicrhau profiadau digidol gwell ac ehangach. Mae projectau cyfredol a diweddar gyda Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerlŷr yn archwilio ffyrdd arloesol o ddefnyddio adnoddau digidol i wella profiadau ymwelwyr. Mae llinyn ymchwil arall yn ymwneud â thimau digidol, ac yn ymchwilio i effeithiau strwythurau sefydliadol ar lythrennedd digidol.

At hynny, mae gan yr Amgueddfa oddeutu 200,000 o gefnogwyr a dilynwyr ar ei phroffiliau Facebook a Twitter, sy’n adnodd gwerthfawr ar gyfer gwaith ymchwil moesegol ynghylch sut y mae pobl yn rhyngweithio â chynnwys ar-lein a chynnwys arall.

Projectau a amlygwyd:

Olion

Yn 2016, bu’r tîm yn gweithio gyda Dr Jenny Kidd o Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd i ddatblygu a phrofi ap digidol ar gyfer ymwelwyr â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r ap yn gwella’r profiad a gaiff ymwelwyr, trwy ddarparu dehongliad hanesyddol cyfoethog ychwanegol sy’n dod â’r safle’n fyw mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Mae’r project Olion yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Prifysgol Caerdydd a yellobrick, sef asiantaeth marchnata creadigol sy’n creu profiadau diddorol a chyfranogol ar gyfer brandiau a sefydliadau.

Creu strwythurau ar gyfer llwyddiant digidol

Sut y mae orielau, llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd yn aildrefnu eu timau digidol er mwyn diffinio a sbarduno llwyddiant?

Beth yw’r strwythurau a’r cydberthnasau sy’n newid sydd gan dimau digidol â’u cydweithwyr, a beth y mae hynny’n ei olygu o safbwynt cyfrifoldeb digidol yn y sefydliad?

Cynhaliwyd cyfweliadau â 56 o sefydliadau ar draws y byd a gwelwyd bod y mwyafrif yn dal i ddefnyddio model wedi’i ganoli, sy’n atal llythrennedd digidol rhag lledaenu ar draws y sefydliad. Er mwyn newid, mae angen buddsoddiad sylweddol mewn sgiliau digidol (yn enwedig mewn dadansoddi data ac mewn arweinyddiaeth dechnegol) ac mae angen pennu – a mesur – amcanion realistig ar gyfer llwyddiant digidol.

Project ymchwil One by One

Dan arweiniad Prifysgol Caerlŷr a phartneriaid eraill, man cychwyn One by One yw’r ffaith bod diffyg hyder digidol yn dal yn amlwg yn y sector yn ei gyfanrwydd er gwaethaf hanner canrif o drawsnewid yn y modd y mae amgueddfeydd yn gweithio, a hwyluswyd gan gyfrifiaduron. Y rhagdybiaeth gyffredinol yw bod y maes digidol yn ymwneud â chymwyseddau technegol penodol na all ond ychydig o weithwyr proffesiynol ym maes TG eu meistroli.

Bydd One by One yn newid o ffordd o feddwl am ‘sgiliau technegol’ i ymwneud yn ehangach a ‘llythrennedd digidol’, sy’n codi o’r gwaelod, o anghenion unigolion. Bydd hynny’n golygu meithrin llythrennedd digidol yn rhan o rôl pawb yn y sefydliad, yn hytrach nag o fewn grŵp arbenigol bach megis tîm TG.

Nod One by One yw helpu amgueddfeydd y DU i ddiffinio, gwella, mesur a sefydlu llythrennedd digidol eu staff a’u gwirfoddolwyr yn well ym mhob rôl ac ar bob lefel. Bydd y project yn dylunio ac yn profi fframwaith llythrennedd digidol ymarferol, cynaliadwy a hyblyg ar gyfer amgueddfeydd, a fydd yn diffinio ‘llythrennedd digidol’, yn darparu tystiolaeth o’i effeithiolrwydd, ac yn meithrin cydgyfrifoldeb amdano a chydberchnogaeth arno.