Ymchwil ym maes y Gwyddorau Naturiol – astudiaethau achos

Beth yw effaith newid yn yr hinsawdd a gweithgareddau pobl ar fioamrywiaeth?

Mae astudio bioamrywiaeth yn hynod o bwysig er mwyn galluogi pob rhywogaeth, gan ein cynnwys ni, i oroesi ar y Ddaear. Mae’r ymchwil a gyflawnir gan ein curaduron ym maes y gwyddorau naturiol yn ein galluogi i ddeall mwy am y berthynas gymhleth tu hwnt rhwng pobl, yr amgylchedd naturiol a’r rhywogaethau eraill yr ydym yn rhannu’r blaned â nhw. Mae tirweddau, ansawdd aer, hinsawdd, afonydd, moroedd, pridd a fforestydd y Ddaear yn newid yn gyson oherwydd gweithgarwch pobl, a byddant yn parhau i newid wrth i’r boblogaeth dyfu ac wrth i ffyrdd newydd o ddefnyddio tir gael eu datblygu. Sut y bydd bioamrywiaeth yn newid er mwyn ymateb i’r newid hwnnw? Mae ein casgliadau o blanhigion ac organebau’n ddangosyddion gwerthfawr o gynefinoedd yn awr ac yn y gorffennol, ac maent yn ein galluogi i ddeall beth sy’n achosi newidiadau megis rhywogaethau’n cael eu colli neu’n goresgyn cynefinoedd newydd.

Projectau a amlygwyd:

Y Rhaglen Monitro Paill: gwella astudiaethau o baill fel dull o fonitro newidiadau yn yr hinsawdd a’r amgylchedd yng Nghymru

Mae dealltwriaeth glir o’r berthynas rhwng dyddodiad paill arwynebol a llystyfiant yn hanfodol er mwyn asesu ymateb llystyfiant i newidiadau yn yr hinsawdd a’r amgylchedd yn y gorffennol a’r dyfodol. Cafodd y Rhaglen Monitro Paill ei sefydlu ym 1996 er mwyn astudio cyfraddau ymgorffori paill ar rwydwaith o safleoedd Ewropeaidd. Yn rhan o’r fenter hon, cafodd trapiau paill Tauber eu gosod yng Nghapel Curig yn Eryri ac yng Nghoedwig Brechfa yn y gorllewin. Yn dilyn hynny, mae samplau o gynnwys y trapiau wedi’u casglu bob blwyddyn er mwyn llunio cofnod hir o ddyddodiad paill fel y gellir cymharu’r data â newidynnau amgylcheddol.

Mae effaith y cyfrwng samplu wedi’i hastudio; cymharodd ymchwil a gyhoeddwyd yn 2010 gyfraddau cronni paill o drapiau â’r cyfraddau cronni paill o samplau o fwsogl. Dangosodd y canlyniadau fod y samplau o fwsogl yn cynnwys paill a ddyddodwyd dros gyfnod o ddwy flynedd ar gyfartaledd, a gwnaethant ddangos anghysondeb yn effeithlonrwydd y dull casglu; yn gyffredinol caiff tacsonau allweddol sy’n cynnwys y binwydden a'r byrwydden eu cynrychioli’n well mewn samplau o fwsogl nag mewn trapiau. Mae ymchwil fanylach wrthi’n asesu ai gwahaniaethau yn y modd y caiff paill ei gludo, effeithlonrwydd y dull trapio neu forffoleg paill sy’n bennaf gyfrifol am hynny.

Mae’r berthynas rhwng cyfraddau blynyddol cronni paill a newidynnau hinsoddol yn destun gwaith ymchwil hefyd. Mae canlyniadau o safleoedd ledled Ewrop a’r Cawcasws yn dangos bod perthynas gymhleth yn bodoli a bod tacsonau unigol yn ymateb yn wahanol i dymheredd a gwlybaniaeth. Roedd y papur a gyhoeddwyd yn darparu tystiolaeth bellach mai’r amodau pan fo’r paill yn cael ei ffurfio sy’n hollbwysig o safbwynt faint o baill a gaiff ei gynhyrchu, ac nid yr amodau cyn yr union adeg pan gaiff y paill ei ddyddodi. Ymchwilir ar hyn o bryd i’r modd y mae tacsonau coed yng Nghymru yn ymateb i amrywiadau blynyddol yn yr hinsawdd, ynghyd â’r cylchoedd naturiol y mae coed yn eu dilyn wrth gynhyrchu paill; bydd y gwaith hwnnw’n cyfrannu at ragfynegiadau ynghylch newidiadau yn y dyfodol mewn llystyfiant, sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd – rhagfynegiadau sy’n hanfodol i lesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Caiff data ynghylch paill arwynebol ei grynhoi yng Nghronfa Ddata Fodern Ewrop ynghylch Paill, sy’n darparu cyfatebiaethau modern ar gyfer llystyfiant y gorffennol a data empiraidd ar gyfer modelu llystyfiant a hinsawdd.

Papurau allweddol:

Davis, B.A.S., Zanon, M., Collins, P., Mauri, A., Bakker, J., Barboni, D., Barthelmes, A., Beaudouin, C., Bjune, A.E., Bozilova, E., Bradshaw, R.H.W., Brayshay, B.A., Brewer, S., Brugiapaglia, E., Bunting, J., Connor, S.E., de Beaulieu, J.-L., Edwards, K., Ejarque, A., Fall, P., Florenzano, A., Fyfe, R., Galop, D., Giardini, M., Giesecke, T., Grant, M.J., Guiot, J., Jahns, S., Jankovská, V., Juggins, S., Kahrmann, M., Karpińska-Kołaczek, M., Kołaczek, P., Kühl, N., Kuneš, P., Lapteva, E.G., Leroy, S.A.G., Leydet, M., López Sáez, J.A., Masi, A., Matthias, I., Mazier, F., Meltsov, V., Mercuri, A.M., Miras, Y., Mitchell, F.J.G., Morris, J.L., Naughton, F,, Nielsen, A.B., Novenko, E., Odgaard, B., Ortu, E., Overballe-Petersen, M.V., Pardoe, H.S., Peglar, S.M., Pidek, I.A., Sadori, L., Seppä, H., Severova, E., Shaw, H., Święta-Musznicka, J., Theuerkauf, M., Tonkov, S., Veski, S., van der Knaap, P.(W.O.), van Leeuwen, J.F.N., Woodbridge, J., Zimny, M., Kaplan, J.O., 2013. The European Modern Pollen Database (EMPD) project. Vegetation History and Archaeobotany, 22, 521–530.

Pardoe, H.S., Giesecke, T., van der Knaap, W.O., Svitavská-Svobodová, H., Kvavadze, E.V., Panajiotidis, S., Gerasimidis, A., Pidek, I.A., Zimny, M., Świeta-Musznicka, J., Latalowa, M., Noryskiewicz, A.M., Bozilova, E., Tonkov, S., Filipova-Marinova, M.V., van Leeuwen, J.F.N., Kalniņa, L. 2010. Comparing pollen spectra from modified Tauber traps and moss samples: examples from a selection of woodlands across Europe. Vegetation history and Archaeobotany, 19, 271-283.

Giesecke, T., Fontana, S.L., van der Knaap, W.O., Pardoe, H.S. a Pidek, I.A. 2010. From early pollen trapping experiments to the pollen monitoring programme. Vegetation history and Archaeobotany, 19, 247-258.

van der Knaap, W.O., van Leeuwen, J.F.N., Svitavská-Svobodová, H., Pidek, I.A., Kvavadze, E., Chichinadze, M., Giesecke, T., Kaszewsk, B.M., Oberli, F., Kalniņa, L., Pardoe, H.S., Tinner, W., Ammann, B. 2010. Annual pollen traps reveal the complexity of climatic control on pollen productivity in Europe and the Caucasus. Vegetation history and archaeobotany, 19, 285-307.

Hicks, S., Ammann, B., Latałowa, M., Pardoe. H., Tinsley, H. 1996. European Pollen Monitoring Programme: Project Description and Guidelines. Oulu Univ. Press, Oulu, 28 tt.

Hicks, S., Tinsley, H., Pardoe, H., Cundill, P., 1999. European Pollen Monitoring Programme: Supplement to the Guidelines. Oulu Univ. Press, Oulu, 24 tt.

Adfer cynefinoedd nentydd yr ucheldir yng nghanolbarth Cymru: diatomau’n ddangosyddion adfer yn dilyn asideiddio

Algâu microsgopig yw diatomau, a ddefnyddir yn eang i astudio newid amgylcheddol. Mae asideiddio mewn nentydd oherwydd llygredd atmosfferig a newid mewn defnydd tir yn broblem eang mewn ardaloedd o Gymru sydd â chreigwely y mae ei allu i liniaru unrhyw asideiddio yn wael. Yn nalgylchoedd uchaf afon Gwy ac afon Irfon, mae dyddodiad llygryddion o’r atmosffer ynghyd â phlanhigfeydd conifferau wedi arwain at pH isel, sy’n golygu bod llawer o nentydd yn anaddas i bysgod. Mae diatomau’n ddangosyddion da o asidedd mewn dŵr croyw, a chânt eu defnyddio i fonitro’r gwaith o adfer pH dŵr nentydd i lefelau sy’n golygu bod salmonidau’n gallu ailgytrefu’r nentydd hynny a bod y nentydd yn gallu cynnal poblogaethau cynaliadwy o bysgod.

Yn ystod dau broject cadwraeth ac ymchwil hirdymor, sef Cynllun Gwella Cynefin Afon Gwy a Phroject Ardal Cadwraeth Arbennig Irfon, cafodd asidedd nentydd ei fonitro yn nalgylchoedd y ddwy afon gan ddefnyddio diatomau cyn ac ar ôl trin y nentydd â chalch, er mwyn asesu effeithiolrwydd y camau unioni. Roedd newidiadau yng nghyfansoddiad rhywogaethau’r diatomau yn un o ddangosyddion clir a defnyddiol cemeg gwell yn y dŵr, a châi hynny ei adlewyrchu gan niferoedd cynyddol o eogiaid ifanc yn y ddau ddalgylch.

Caiff y nentydd yn y ddau ddalgylch eu trin â chalch bob blwyddyn o hyd gan ein partner yn y project, sef Sefydliad Gwy ac Wysg, er mwyn cynnal lefelau pH digonol a bydd diatomau ar safleoedd nentydd dethol yn cael eu monitro’n aml iawn o 2019 ymlaen er mwyn cofnodi ymateb diatomau i driniaeth â chalch dan amodau gwahanol o ran llif.

Papurau allweddol:

Jüttner I., Kelly M., Evans S., Marsh-Smith S. 2017. Recovery from acidification and restoring of fish populations in the catchment of the River Wye, United Kingdom. 11th International Phycological Congress, Szczecin, Poland, August 13–19. (Cyflwyniad mewn cynhadledd)

Jüttner I., Ector L., Reichardt E., Van de Vijver B., Jarlman A., Krokowski J., Cox E.J. 2013. Gomphonema varioreduncum sp. nov. a new species from northern and western Europe and a re-examination of Gomphonema exilissimum. Diatom Research 28(3): 303–316.

Lewis B., Jüttner I., Reynolds B., Marsh-Smith S., Ormerod S.J. 2007. Comparative assessment of stream acidity using diatoms and macroinvertebrates: implications for river management and conservation. Aquatic Conservation. Marine and Freshwater Ecosystems 17: 502–519.

Pob project ynghylch bioamrywiaeth ac effeithiau pobl

  • Fflora diatomau dŵr croyw ym Mhrydain: gwella gwybodaeth am fioamrywiaeth algâu sy’n bwysig ar gyfer monitro iechyd cynefinoedd dŵr croyw (Dr Ingrid Juettner)
  • Effaith amgylcheddol y chwynnyn goresgynnol Jac y Neidiwr yng Nghymru (Dr Heather Pardoe a Dr Chris Cleal)
  • Algâu morol (“gwymon”) o amgylch arfordiroedd Cymru: penderfynu pa mor gyflym y mae rhywogaethau goresgynnol yn ymddangos wrth ymateb i newid yn yr hinsawdd (Katherine Slade)
  • Effeithiau newid yn yr hinsawdd a gweithgareddau pobl ar fioamrywiaeth planhigion yr ucheldir (“arctig-alpaidd”) ym Mhrydain (Dr Heather Pardoe)
  • Adnabod ac olrhain presennol, gorffennol a dyfodol ffawna malwod a gwlithod, sy’n newid, ym Mhrydain (Dr Ben Rowson)
  • Defnyddio bioamrywiaeth DNA molecwlaidd plufwsoglau (Pleurocarpaceae) i ddeall effeithiau pobl o safbwynt darnio cynefinoedd (Dr Ray Tangney)
  • Deall pwysau twristiaeth a datblygu ar gynefinoedd ar Ynysoedd Falkland/Malvinas, un o Diriogaethau Tramor Prydain: rhestr sylfaenol o fwsoglau a bioamrywiaeth y mwsoglau (Dr Ray Tangney)
  • Darluniadau botanegol fel dull o gofnodi newidiadau mewn planhigion dros amser (Dr Heather Pardoe)
  • Bioamrywiaeth dŵr croyw yn llynnoedd Himalaiaidd Nepal: effeithiau dylanwad pobl ar gynefinoedd sensitif ar dir uchel sydd 2,438 – 3,658 metr uwchlaw lefel y môr (Dr Ingrid Juettner)
  • Harold August Hyde (Ceidwad Botaneg 1922-1962): tystiolaeth archifol ar gyfer ei waith arloesol ar ddefnyddio dadansoddiadau o baill i gofnodi newidiadau mewn llystyfiant (Dr Heather Pardoe)
  • Defnyddio malwod tir fel dull o ail-greu’r amgylcheddau a droediwyd gan ein cyndeidiau (Dr Ben Rowson)
  • Sut y gellir adnabod dwyfalfau ôl-larfaol pwysig o safbwynt masnachol? (Anna Holmes)
  • Sut y mae amodau storio ac amodau amgylcheddol yn effeithio ar y gwaith o warchod y staen carbonad Calsin, a beth yw goblygiadau defnyddio rhai casgliadau mewn astudiaethau amgylcheddol hirdymor? (Dr Caroline Buttler)
  • Cymorth i gadwraeth a thacsonomeg fyd-eang: Adnabod mwydod gwrychog Ynysoedd Falkland/Malvinas, a’u dosbarthiad (Dr Teresa Derbyshire)
  • Morgrug, gwenyn a gwenyn meirch colynnog (Hymenoptera; Aculeata) ym Morgannwg, eu dosbarthiad a’u statws (Mark Pavett)
  • Llifbryfed (Hymenoptera; Symphyta), eu statws a’u dosbarthiad ym Morgannwg (Mark Pavett)
  • Project BRIGIT – ategu dulliau o adnabod cludwyr sy’n lledaenu Xyella ym Mhrydain (Dr Mike Wilson)

Beth yw’r dystiolaeth amser dwfn dros newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd?

Mae casgliadau hanes natur yn dod yn fwyfwy gwerthfawr i wyddonwyr sy’n astudio newid amgylcheddol byd-eang a’r modd y mae’n effeithio ar fywyd ar y Ddaear. Mae’r casgliadau yn ein helpu i ddeall rôl newidiadau mawr yn yr hinsawdd ac mewn gweithgarwch daearegol, ac yn y pen draw maent yn ein galluogi i ragweld sut y gallai newidiadau effeithio ar esblygiad bywyd yn y dyfodol. Bydd rhywogaethau gwahanol yn ffynnu mewn amrediadau tymheredd penodol ac yn ymateb yn sydyn pan fydd amodau hinsoddol yn newid, drwy addasu eu dosbarthiad ar draws y dirwedd. Mae modelau dadansoddol newydd yn ein galluogi i benderfynu ynghylch tarddiad a hanes gwahanol rywogaethau planhigion, er enghraifft, drwy ddatgelu sut y mae unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn nhymheredd y byd, symudiadau hynafol platiau tectonig y Ddaear neu lefel y carbon sydd yn yr atmosffer yn effeithio ar y rhywogaethau planhigion dan sylw.

Project a amlygwyd

Newidiadau mewn llystyfiant yng ngwernydd glo’r Cyfnod Carbonifferaidd Hwyr yn Ewramerica: model ar gyfer rhoi prawf ar y rhyngweithio rhwng planhigion a’r hinsawdd mewn "amser dwfn" Credir bod llystyfiant yn dylanwadu’n fawr ar hinsoddau’r byd. Mae gwaith modelu wedi awgrymu bod coedwigoedd, yn enwedig yn y trofannau, yn gallu newid lefelau nwyon “tŷ gwydr” atmosfferig megis carbon deuocsid, a bod hynny’n gallu dylanwadu’n fawr ar dymheredd y byd. At hynny gall trydarthu mewn coedwigoedd ddylanwadu ar y graddau y mae dŵr yn llifo o briddoedd i mewn i’r atmosffer, a gall hynny effeithio ar batrymau glawiad ar raddfa fawr.

Tan yn ddiweddar, roedd y modelau hyn yn seiliedig ar arsylwadau ynghylch system y Ddaear heddiw. Fodd bynnag, gall modelau sy’n seiliedig ar un set ddata’n unig arwain at ddryswch rhwng cydberthyniad ac achosiad, a chaiff camau eu cymryd yn awr i chwilio am dystiolaeth ychwanegol o’r cofnod daearegol; allwn ni weld cydberthyniadau tebyg rhwng newid mewn llystyfiant a’r hinsawdd mewn “amser dwfn”, sy’n ategu’r modelau? Un elfen ddefnyddiol tu hwnt yw cofnod daearegol y Cyfnod Carbonifferaidd Hwyr (tua 300‒320 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Roedd dosbarthiad y tirfasau cyfandirol ychydig yn wahanol bryd hynny, ond roedd yr amodau fel arall yn hynod o debyg i’r amodau a geir heddiw, gyda llawer o iâ yn y pegynau a llawer o lystyfiant, yn enwedig yn y trofannau. Roedd llawer o’r llystyfiant trofannol hwn yn cynnwys gwern-goedwigoedd a oedd, pan oeddent ar eu hanterth, yn gorchuddio oddeutu miliwn cilomedr sgwâr o’r trofannau. Ers hynny, mae’r mawn a gynhyrchwyd gan y gwernydd hyn wedi troi’n ddyddodion glo pwysig o safbwynt economaidd, ac oherwydd hynny maent wedi bod yn destun gwaith ymchwilio a samplu helaeth gan ddaearegwyr. Maent felly’n “labordy naturiol” ardderchog i roi prawf ar syniadau ynghylch ecoleg planhigion a’r modd yr oeddent yn mudo, ac ynghylch sut yr oedd hynny’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ar y pryd.

Mae gan Gymru un o’r cofnodion paleobotanegol gorau ar gyfer y cyfnod hwnnw, sy’n dangos newid mewn llystyfiant mewn lledredau trofannol yn ystod cyfnod o dros 10 miliwn o flynyddoedd. Mae’n darparu “safon aur” y gellir cymharu dynameg llystyfiant meysydd glo eraill yn Ewrop a Gogledd America â hi. Erbyn hyn, mae data radiometrig newydd hefyd yn dechrau darparu fframwaith gwell o ran amser ar gyfer archwilio’r cyflymder yr oedd rhywogaethau’n esblygu ac yn mudo yn y gwernydd. Mae’r canlyniadau eisoes wedi awgrymu bod cydberthyniad agos rhwng yr hinsawdd a newid mewn llystyfiant yn y fflora dan sylw mewn gwernydd. Yn awr, rydym yn dechrau edrych yn fanylach ar newidiadau yn nosbarthiad rhywogaethau allweddol er mwyn ceisio pennu’r ffactorau sylfaenol a achosodd y newid mewn llystyfiant.

Papurau allweddol:

Cleal, C.J. 1997. The palaeobotany of the upper Westphalian and Stephanian of southern Britain and its geological significance. Review of Palaeobotany and Palynology, 95, 227-253.

Cleal, C.J. 2007. The Westphalian-Stephanian macrofloral record from the South Wales Coalfield. Geological Magazine, 144, 465-486.

Cleal, C.J. 2008. Palaeofloristics of Middle Pennsylvanian medullosaleans in Variscan Euramerica. Palaeogeography, Palaeoclimatology, Palaeoecology, 268, 164-180.

Cleal, C.J., Tenchov, Y.G., Dimitrova, T.Kh., Thomas, B.A., Zodrow, E.L. 2007. Late Westphalian-Early Stephanian vegetational changes across the Variscan Foreland. Yn Wong, Th. E (gol.). Proceedings of the XVth International Congress on Carboniferous and Permian Stratigraphy. Utrecht, the Netherlands, 10-16 August 2003. Royal Netherlands Academy of Arts and Sciences, Amsterdam, tt. 367-377.

Cleal, C.J., Thomas, B.A. 2005. Palaeozoic tropical rainforests and their effect on global climates: is the past the key to the present? Geobiology, 3, 13-31.

Cleal, C.J., Opluštil, S., Thomas, B.A. a Tenchov, Y.G. 2010. Late Moscovian terrestrial biotas and palaeoenvironments of Variscan Euramerica. Netherlands Journal of Geosciences, 88, 181-278.

Cleal, C.J., Uhl, D., Cascales-Miñana, B., Thomas, B.A., Bashforth, A.R., King, S.C., Zodrow, E.L. 2012. Plant biodiversity changes in Carboniferous tropical wetlands. Earth-Science Reviews, 114, 124-155.

Thomas, B.A., Cleal, C.J. 2017. Distinguishing Pennsylvanian-age lowland, extra-basinal and upland vegetation. Palaeobiodiversity and Palaeoenvironments, 97, 273-293.

Esblygiad a difodiannau torfol – o ble y mae bywyd wedi dod ac i ble y mae’n mynd?

Sut y mae planhigion ac anifeiliaid wedi addasu i newid amgylcheddol yn y gorffennol? Yn y cofnod ffosilau a gedwir yn y casgliadau, gall paleontolegwyr astudio effaith newid yn yr hinsawdd yn y gorffennol a defnyddio’r wybodaeth dan sylw i ragweld sut y gallai newidiadau yn y dyfodol effeithio ar fywyd ar y Ddaear. Mae’r gallu i astudio’r newidiadau hyn dros gyfnodau maith iawn yn hanfodol er mwyn deall esblygiad araf ffurfiau ar fywyd a’r modd y mae’r esblygiad hwnnw’n ymateb i ffactorau amgylcheddol. Er enghraifft, mae rhywogaethau morol yn sensitif i newidiadau mewn tymheredd – gellir gweld hynny drwy archwilio cregyn wedi’u ffosileiddio – tra mae sborau paill sydd wedi cadw’n dangos pa lystyfiant oedd yn bresennol. Mae difodiannau yn y gorffennol yn dweud llawer iawn wrthym am straen amgylcheddol megis cynnydd yn nhymheredd y byd, llystyfiant yn newid a dyfroedd yn cynhesu, ac am sut a pham y mae rhai rhywogaethau’n addasu i’r rhain ac yn goroesi tra mae eraill yn diflannu.

Projectau a amlygwyd

Beth y mae trilobitau ffosiledig newydd o Sir Gaerfyrddin yn ei ddatgelu am amgylcheddau morol hynafol Cymru 445 miliwn o flynyddoedd yn ôl?

Creaduriaid a oedd yn byw yn y moroedd rhwng tua 520 a 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl oedd trilobitau. Ystyr eu henw yw ‘â thair llabed’ ac mae’n deillio o’r ffaith bod eu cregyn allanol caled, neu’u ‘hallsgerbydau’, wedi’u rhannu yn dair ardal ar wahân ar hyd eu corff cyfan. Maent yn fath o arthropod (anfail di-asgwrn-cefn â choesau cymalog) sydd wedi diflannu’n gyfan gwbl erbyn hyn ac nid oes cysylltiad rhyngddynt a chrancod, trychfilod a phryfed cop modern. Trilobitau oedd un o’r grwpiau mwyaf amrywiol o anifeiliaid yng nghefnforoedd yr henfyd. Gwnaethant esblygu’n llawer o wahanol rywogaethau a oedd yn eu cynnal eu hunain mewn amryw ffyrdd.

Caiff ffosilau trilobitau eu darganfod mewn sawl ardal yng Nghymru, oherwydd bod y creigiau yno yng ngwaelod y moroedd lle’r oedd trilobitau’n byw. Yn ddiweddar, casglodd amatur gannoedd o ffosilau trilobitau newydd o ddeg ardal ger Llanddowror wrth ymyl Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin. Datgelodd gwaith rhagarweiniol sawl rhywogaeth newydd o’r ardaloedd ger Llanddowror, ac roedd rhywogaethau trilobitau gwahanol i’w cael mewn ardaloedd gwahanol. Bydd ymchwil fanwl i’r ffosilau yn gwella ein dealltwriaeth o’r amrywiaeth o drilobitau a oedd yn byw yng nghefnforoedd yr henfyd, a bydd yn datgelu’r trilobitau gwahanol a oedd yn byw mewn amgylcheddau gwahanol a dyfnderoedd gwahanol yn y dŵr. Bydd cymharu’r trilobitau hynny â thrilobitau o oedran tebyg mewn mannau eraill yn datgelu gwybodaeth am symudiadau trilobitau rhwng y dyfroedd oddi ar arfordir Cymru a dyfroedd oddi ar arfordir tirfasau cyfagos eraill. Bydd hefyd yn helpu i egluro oedran y trilobitau yn y ffurfiant creigiau hwn, o’u cymharu â’r rhai a ddarganfuwyd mewn ffurfiannau eraill yn Sir Gaerfyrddin.

Papurau allweddol:

McCobb, L. M. E., McDermott, P. D. ac Owen, A. W. 2018. The taphonony of a trilobite fauna from an uppermost Katian echinoderm Lagerstätte in South West Wales. Lethaia, (Dynodwr Gwrthrych Digidol: 10.1111/let.12265)

McCobb, L. M. E., McDermott, P. D. ac Owen, A. W. 2018. The trilobite fauna of an uppermost Katian (Upper Ordovician) echinoderm Lagerstätte from South West Wales. Palaeontological Association Annual Meeting, University of Bristol; December 2012 (Cyflwyniad ar ffurf poster).

McCobb, L. M. E., McDermott, P. D. ac Owen, A. W. 2017. The trilobites of the latest Katian Slade and Redhill Mudstone Formation, South West Wales. Sixth International Trilobite Conference, Talinn, Estonia; June 2017 (Cyflwyniad llafar).

McCobb, L. M. E. a Popov, L. E. 2017. Late Ordovician trilobites from the Mayatas Formation, Atansor area, north-central Kazakhstan. Earth and Environmental Science Transactions of the Royal Society of Edinburgh, 107, 33-52.

McCobb, L. M. E., Boyce, W. D., Knight, I. a Stouge, S. 2014. Early Ordovician (Skullrockian) Trilobites of the Antiklinalbugt Formation, North-east Greenland, and their biostratigraphic significance. Journal of Paleontology, 88 (5), 982-1018.

McCobb, L. M. E. a P. D. McDermott. A new species of Tretaspis (Trilobita, Trinucleidae) from the Late Ordovician (Katian/Ashgill) Slade and Redhill Mudstones of Carmarthenshire, South Wales. Palaeontological Association Annual Meeting, University College Dublin; December 2012 (Cyflwyniad ar ffurf poster).

Adnabod ac olrhain presennol, gorffennol a dyfodol ffawna malwod a gwlithod, sy’n newid, ym Mhrydain

Mae molysgiaid nad ydynt yn rhai morol (malwod, gwlithod a dwyfalfau dŵr croyw) yn rhan o fywyd ym Mhrydain. Maent yn elfen sylweddol o fioamrywiaeth Cymru a’r byd ac mae rhai ohonynt yn organebau enghreifftiol eglurhaol ym maes swoleg. Mae ychydig ohonynt yn gyfarwydd am eu bod yn bla mewn gerddi, ond mae molysgiaid hefyd yn chwarae rôl arbennig ym maes archaeoleg a hanes hinsoddol (oherwydd eu bod yn ddangosyddion mudo ymhlith pobl ac yn ddangosyddion amgylcheddol manwl) ac ym maes parasitoleg (oherwydd eu bod yn gynhalwyr canolraddol llyngyr pobl, da byw a bywyd gwyllt).

Oherwydd bod cregyn yn bethau poblogaidd i’w casglu, mae datblygiad malacoleg wyddonol yn rhan annatod o stori Amgueddfeydd ac o hanes natur ymhlith amaturiaid a gweithwyr proffesiynol. Mae ffawna folysgaidd y DU yn dal yn syndod o ddeinamig wrth i rywogaethau anfrodorol ymledu ac wrth i rywogaethau newydd gael eu darganfod, ac ar yr un pryd mae ymdrechion ym maes cadwraeth yn canolbwyntio ar rywogaethau brodorol sy’n prinhau a’u cynefinoedd. Mae cyflwr byd natur yn newid yn barhaus.

Mae’r dystiolaeth sy’n sail i’r arsylwadau hyn yn deillio’n bennaf o ymchwil sy’n seiliedig ar gasgliadau. Mae’n tarddu o’n rhestrau cenedlaethol o rywogaethau, a gaiff eu gwahanu ar sail tacsonomeg forffolegol a thacsonomeg DNA; o gofnodion biolegol a luniwyd dros amser, gan selogion lleol yn aml; ac o adnabod rhywogaethau drwy gyfeirio at sbesimenau neu ganllawiau darluniadol. Mae’r data yn gosod y llwyfan ar gyfer yr 50 mlynedd nesaf. Pa rywogaethau fydd yn ffynnu yng Nghymru a pha rai fydd yn ei chael yn anodd? Sut y byddant yn effeithio ar ein bywydau ni, a sut y byddwn ni’n effeithio ar eu bywydau nhw?

Cyhoeddiadau allweddol

  1. Rowson, B., Anderson, R., Turner, J. A. a Symondson, W. O. C. 2014. The Slugs of Britain and Ireland: Undetected and Undescribed Species Increase a Well-studied, Economically Important Fauna by More Than 20%. PLOS One 9(3): e91907. Dynodwr Gwrthrych Digidol:10.1371/journal.pone.0091907
  2. Rowson, B., Anderson, R., Allen, S., Forman, D., Greig, C. ac Aziz, N. A. A. 2016. Another wave of invasion? First record of the true Sicilian Slug Deroceras panormitanum sensu stricto from Ireland, and another from Wales (Eupulmonata: Agriolimacidae). Journal of Conchology 42 (3): 123-125.
  3. Rowson, B. a Symondson, W. O. C. 2008. Selenochlamys ysbryda sp. nov. from Wales, UK: a Testacella-like slug new to Western Europe (Stylommatophora: Trigonochlamydidae). Journal of Conchology 39(5): 537-552.
  4. Aziz, N. A. A., Daly, E., Allen, S., Rowson, B., Greig, C., Forman, D. a Morgan, E. R. 2016. Distribution of Angiostrongylus vasorum and its gastropod intermediate hosts along the rural-urban gradient in two cities in the United Kingdom, using real time PCR. Parasites & Vectors 9: 56. Dynodwr Gwrthrych Digidol:10.1186/s13071-016-1338-3
  5. Rowson, B., Turner, J. A., Anderson, R. a Symondson, W. O. C. 2014. Slugs of Britain and Ireland: identification, understanding and control. Field Studies Council, Shropshire, UK. 140 tt.
  6. Cavadino, I. a Rowson, B. 2017. Molluscs as markers in the Living Landscapes of Gwent. Natur Cymru 61: 40-43.
  7. Rowson, B. 2019. Non-marine Recorder’s Report 2018. Report to the Conchological Society of Great Britain & Ireland, March 2019.
  8. Owen, C., Rowson, B. a Wilkinson, K. 2016. First record of the predatory semi-slug Daudebardia rufa (Draparnaud, 1805) from the UK (Eupulmonata: Daudebardiidae). Journal of Conchology 42 (3): 119-121.
  9. Rowson, B. (Mollusca). Yn: Smith, G. a Walker, E. A. 2015. Snail Cave rock shelter, North Wales: a new prehistoric site. Archaeologia Cambrensis 163: 99-131.
  10. Rowson, B. 2017. [38 o Asesiadau (Ewropeaidd neu Fyd-eang) ar gyfer Rhestr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o Rywogaethau dan Fygythiad.] Disgrifiad enghreifftiol: Rowson, B. 2017. Geomalacus maculosus. The IUCN Red List of Threatened Species 2017: e.T9049A85983466. http://dx.doi.org/2305/IUCN.UK.2017-3.RLTS.T9049A85983466.en.

Bioamrywiaeth planhigion drwy 450 miliwn o flynyddoedd o hanes y Ddaear: effeithiau esblygiad, hinsawdd, tirwedd a difodiannau torfol

Mae’r amrywiaeth o fywyd a geir ar y Ddaear wedi amrywio’n sylweddol dros amser daearegol, wrth iddo ymateb i ffactorau amgylcheddol megis newidiadau yn y dirwedd a’r hinsawdd. Mae llawer o’r farn bod o leiaf pum "difodiant torfol" wedi digwydd, pan gollwyd llawer o fioamrywiaeth oherwydd gweithgarwch igneaidd ar raddfa fawr a/neu oherwydd gwrthdrawiad rhwng sêr gwib allfydol; weithiau caiff yr argyfwng presennol o safbwynt bioamrywiaeth, sydd wedi’i achosi gan ffactorau’n ymwneud â phobl, ei alw’n chweched "difodiant torfol".

Cafodd y model difodiant hwn ei seilio i raddau helaeth ar y cofnod o ffawna morol, gan mai’r anifeiliaid hynny sydd amlycaf yn y cofnod ffosilau. Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae data gwell wedi bod ar gael i ni ynghylch dosbarthiad planhigion dros amser daearegol, yn benodol drwy’r projectau Fossil Record 2 a Brief History of the Gymnosperms, ac mae’r data hwnnw’n adrodd stori sydd ychydig yn wahanol. Erbyn hyn, mae dadansoddiadau rhifol o’r data dan sylw’n dangos bod planhigion yn aml yn ymateb i argyfyngau amgylcheddol mewn ffyrdd eithaf gwahanol i anifeiliaid. Yn y rhan fwyaf o achosion roedd y “difodiannau torfol” dan sylw’n cael effaith gymharol fach ar gwrs cyffredinol esblygiad planhigion, ac mewn un achos (yn y Cyfnod Defonaidd Hwyr) mae’n ymddangos bod difodiant ymhlith ffawna morol wedi’i achosi gan newidiadau yn y dŵr a oedd yn llifo o afonydd i’r cefnforoedd wrth i lystyfiant amrywio dros y tir. At hynny, cafwyd o leiaf un difodiant a effeithiodd ar blanhigion (yn y Cyfnod Carbonifferaidd Hwyr) na chafodd fawr ddim effaith ar ffawna morol. Yn ôl pob golwg, dim ond un o’r digwyddiadau dan sylw a effeithiodd ar bob math o fywyd ar y Ddaear, ar y ffin rhwng y Cyfnod Permaidd a’r Cyfnod Triasig, a hyd yn oed yn achos y digwyddiad hwnnw ymatebodd planhigion i’r argyfwng ecolegol mewn ffordd eithaf gwahanol i anifeiliaid.

Mae cydweithio rhwng gwyddonwyr yn Amgueddfa Cymru a gwyddonwyr ledled y byd (gan gynnwys yn Ffrainc, Gwlad Belg, Sbaen, De Affrica ac India) yn dal i fireinio’r data ynghylch llystyfiant, a ddefnyddir yn y dadansoddiadau hyn, er mwyn meithrin dealltwriaeth fanylach o gwrs cyffredinol esblygiad planhigion. At hynny, rydym yn awr yn canolbwyntio ar batrymau llystyfiant yn ystod y cyfnodau cynnar pan oedd planhigion yn dechrau goresgyn a threchu’r tir, a baratôdd y ffordd i anifeiliaid symud wedi hynny o gynefinoedd dyfrol i dir sych.

Papurau allweddol:

Anderson, J.M., Anderson, H.M., Cleal, C.J. 2007. Brief history of the gymnosperms: classification, biodiversity, phytogeography and ecology. National Institute of Biodiversity, Pretoria, De Affrica (Strelitzia, 20), 279 tt.

Cascales-Miñana, B., Cleal, C.J. 2013. What is the best way to measure extinction? Reflection from the palaeobotanical record. Earth-Science Reviews, 124, 126-147.

Cascales-Miñana, B., Cleal, C.J. 2013. The plant fossil record reflects just two great extinction events. Terra Nova, 26, 195-200.

Cascales-Miñana, B., Cleal, C.J., Gerrienne, P. 2016. Is Darwin's ‘Abominable Mystery’ still a mystery today?. Cretaceous Research, 61, 256-262.

Cascales‐Miñana, B., Servais, T., Cleal, C.J., Gerrienne, P., Anderson, J. 2018. Plants—the great survivors! Geology Today, 34, 224-229.

Cleal, C.J. 1993. Pteridophyta, Gymnosperms. Yn Benton, M.J (gol.). The Fossil Record 2 Chapman & Hall, London, tt. 779-808.

Cleal, C.J., Cascales‐Miñana, B. 2014. Composition and dynamics of the great Phanerozoic Evolutionary Floras. Lethaia, 47, 469-484.

Projectau eraill ynghylch esblygiad a difodiannau torfol

  • Hanes sffenoffytau (“marchrawn”) ffosiledig: a yw patrymau bioamrywiaeth wedi newid yn ystod 350 miliwn o flynyddoedd o hanes y Ddaear? (Dr Chris Cleal)
  • Beth y mae ffawna trilobitau ffosiledig newydd o Sir Gaerfyrddin yn ei ddatgelu am amgylcheddau morol hynafol Cymru 445 miliwn o flynyddoedd yn ôl? (Dr Lucy McCobb)
  • Tacsonomeg esblygiad ffrwythlon: disgrifio, dosbarthu a nodi bioddaearyddiaeth malwod hela (Streptaxidae) (Dr Ben Rowson)
  • Beth yw hanes esblygol bryosoaid trepostom (anifeiliaid morol cytrefol ffosiledig) a sut y mae ffawna o Gymru yn perthyn i’r cyd-destun byd-eang? (Dr Caroline Buttler)
  • Sut y mae bryosoaid crawennog yn datgelu paleoecoleg gudd y moroedd Silwraidd hynafol? (Dr Caroline Buttler)
  • Ategu gwaith monitro’r amgylchedd a gwarchod rhywogaethau: Adolygiad o fwydod rhawben (Magelonidae) o Brydain i orllewin Affrica: disgrifio rhywogaethau ac archwilio eu dosbarthiad (Katie Mortimer-Jones)
  • Datrys y gorffennol: deall cydberthnasau esblygol mwydod rhawben, grŵp sydd wrth wraidd esblygiad anelidau (Magelonidae) (Katie Mortimer-Jones)

Sut y gallwn ddeall ein treftadaeth naturiol yn llawnach a’i rhannu â chynulleidfaoedd newydd?

Mae treftadaeth naturiol Cymru yn gyfoethog ac yn amrywiol, ac mae’n dangos y cysylltiadau hanesyddol dwfn rhwng ei daeareg, ei fflora, ei ffawna a’i phobl. Rydym am alluogi mwy o bobl i werthfawrogi’r cysylltiadau hyn a deall yr amryw ffyrdd, annisgwyl yn aml, y mae’r casgliadau yn taflu goleuni ar y dreftadaeth naturiol hon. Drwy ddefnyddio ein casgliadau mae gennym gyfle unigryw i weithio gydag eraill, trosglwyddo’r wybodaeth hon a sicrhau bod sgiliau ym maes curadu, dehongli gwyddonol ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn cael eu rhannu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, boed yn selogion ym maes hanes natur neu’n newydd-ddyfodiaid i’r maes. Mae rhannu ein hymchwil a chydweithio ag eraill yn ein galluogi i gwestiynu credoau a gâi eu derbyn yn flaenorol a chreu damcaniaethau newydd: er enghraifft, sut y gall technegau newydd ar gyfer pennu tarddleoedd cerrig ein galluogi o’r diwedd i ateb y cwestiwn dyrys ynghylch pam y cafodd cerrig gleision Côr y Cewri eu cludo yr holl ffordd o Gymru i Wiltshire, neu sut yr arweiniodd y gwahaniaeth aneglur rhwng deliwr, casglwr a chregynegwr mewn arferion hanesyddol yn y fasnach gregyn at ddatblygu casgliadau o gregyn ac at hybu astudiaeth dacsonomig o folysgiaid.

Projectau a amlygwyd:

Beth y bydd pennu tarddle cerrig gleision Côr y Cewri o safbwynt petrolegol a geocemegol yn ei ddweud wrthym am ddechrau Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru, a sut y bydd yn ateb cwestiynau ynghylch pwy, pam, pryd a sut am Gôr y Cewri?

Côr y Cewri yn Wiltshire yw un o henebion hanesyddol mwyaf eiconig y byd. Elfennau amlycaf yr heneb yw monolithau mawr o dywodfaen caled o’r ardal leol, ynghyd â chyfres lai amlwg o fonolithau llai o lawer, a elwir ar y cyd yn gerrig gleision ac nad ydynt yn tarddu o’r ardal. Cerrig igneaidd yw’r cerrig gleision at ei gilydd, ac ar y cyfan maent yn cynnwys doleritau smotiog, doleritau heb smotiau, tyffiau rhyolitig ac enghreifftiau prinnach o dywodfeini.

Ym 1923 cyflwynodd H.H. Thomas, Prif Betrograffydd Arolwg Daearegol Prydain Fawr, dystiolaeth dros y gred bod y cerrig gleision yn tarddu o ardal y Preseli yng ngogledd Sir Benfro yng ngorllewin Cymru, tua 230 cilomedr i’r gorllewin o Gôr y Cewri. Nododd fod brigiadau penodol yn darddleoedd rhai o’r cerrig gleision dan sylw.

Gan ddefnyddio ystod o dechnegau dadansoddi modern, mae’n bosibl ailasesu honiadau gwreiddiol Thomas. Mae dau darddle amgen wedi’u nodi mor belled ar gyfer y cerrig gleision, sef brigiadau Craig Rhos-y-Felin a Charn Goedog. Mae gwaith cloddio archaeolegol ar y safleoedd hyn yn Sir Benfro wedi dangos tystiolaeth o weithgarwch pobl yn ystod Oes Newydd y Cerrig, sydd wedi’i gysylltu â gwaith cloddio cerrig. Mae hynny’n codi cwestiynau ynghylch pam yr oedd cerrig yn cael eu cloddio yn Sir Benfro ac yn awgrymu bod yn rhaid i ni adolygu damcaniaethau ynghylch sut a pham y cawsant eu cludo wedyn i Wiltshire. Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu y gallai’r cerrig hyn fod wedi’u cario dros y tir – sy’n codi cwestiynau newydd ynghylch cymhellion ein cyndeidiau. Bwriedir i ymchwiliadau parhaus yn y maes yng ngogledd Sir Benfro ateb y pos hwn a nodi tarddleoedd penodol eraill y cerrig gleision.

Papurau allweddol:

Parker Pearson, M., Pollard, J., Richards, C., Welham, K., Casswell, C., French, C., Schlee, D., Shaw, D., Simmons, S., Stanford, A., Bevins, R.E., Ixer, R. 2019. Megalith quarries for Stonehenge's bluestones. Antiquity, 93, (367), 45-62.

Bevins, R.E. ac Ixer, R.A., 2018. Retracing the footsteps of HH Thomas: a review of his Stonehenge bluestone provenancing study. Antiquity, 92, 788-802.

Bevins, R.E., Atkinson, N., Ixer, R. A. ac Evans, J.A. 2017. U-Pb zircon age constraints for the Ordovician Fishguard Volcanic Group and further evidence for the provenance of the Stonehenge bluestones. Journal of the Geological Society of London, 174, 14-17.

Parker Pearson, M., Bevins, R.E., Ixer, R., Pollard, J., Richards, C., Welham, K., Chan, B., Edinborough, K., Hamilton, D., MacPhail, R., Schlee, D., Schwenninger, J-L., Simmons, E., a Smith, M. 2015. Craig Rhos-y-felin: a Welsh bluestone megalith quarry for Stonehenge. Antiquity, 89, 1331-1352.

Bevins, R.E., Ixer, R. A. a Pearce, N.J.G. 2014. Carn Goedog is the likely major source of Stonehenge doleritic bluestones:evidence based on compatible element geochemistry and Principal Component Analysis. Journal of Archaeological Science, 42, 179-193.

Ixer, R.A. a Bevins, R.E. 2014. Chips off the old block: the Stonehenge debitage dilemma. Archaeology in Wales, 52, 11-22.

Bevins, R.E. ac Ixer, R. A. 2013. Carn Alw as a source of the rhyolitic component of the Stonehenge bluestones: a critical re-appraisal of the petrographical account of H.H. Thomas. Journal of Archaeological Science, 40, 3293-3301.

Bevins, R.E., Ixer, R. A., Webb, P.C. a Watson, J.S. 2012. Provenancing the rhyolitic and dacitic components of the Stonehenge landscape bluestone lithology: new petrographical and geochemical evidence. Journal of Archaeological Science, 39, 1005-1019.

Parker Pearson, M., Pollard, J., Richards, C., Thomas, J., Welham, K., Bevins, R.E., Ixer, R., Marshall, P. a Chamberlain, A. 2011. Stonehenge: controversies of the bluestones. Yn L. García Sanjuán, C. Scarre a D.W. Wheatley (goln) Exploring Time and Matter in Prehistoric Monuments: absolute chronology and rare rocks in European megaliths. Proceedings of the 2nd European Megalithic Studies Group Meeting (Seville, Spain, November 2008). Menga: Journal of Andalusian Prehistory, Monograph no. 1. Seville: Junta de Andalucía. 219-50.

Bevins, R.E., Pearce, N.J.G. ac Ixer, R. A. 2011. Stonehenge rhyolitic bluestone sources and the application of zircon chemistry as a new tool for provenancing rhyolitic lithics. Journal of Archaeological Science, 38, 605-622.

Projectau eraill ynghylch ein treftadaeth naturiol:

  • Nodi’r safleoedd allweddol sy’n ein helpu i ddeall tarddle dyddodion mwynau Cymru a sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol (Yr Athro Richard Bevins)
  • Defnyddio casgliadau bioddiwylliannol mewn amgueddfeydd i gyfleu pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol planhigion (Dr Heather Pardoe)
  • Geotreftadaeth meysydd glo rhanbarth arfordirol yr Iwerydd: gwella gwybodaeth ddaearegol am feysydd glo a’i defnyddio fel modd i addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd (Dr Chris Cleal)
  • Hanes casgliad Moore o ichthyosoriaid – sut y mae’n taflu goleuni ar y fasnach ffosilau yn Oes Fictoria? (Cindy Howells)
  • Dylanwad delwyr cregyn, rhwydweithiau masnach a thai arwerthu ar hyd yr amser a’r modd y maent wedi effeithio ar ein casgliadau heddiw? (Harriet Wood)
  • Beth y mae gwaddol yr Eidalwr Marchese di Monterosato yn ei ddatgelu am ein casgliad cenedlaethol ni o gregyn? (Harriet Wood)
  • Gwella’r gwaith o adnabod llyngyr gwyntyllog, a gwella gwybodaeth amdanynt a data ynghylch eu dosbarthiad o amgylch Cymru a’r DU (Dr Teresa Derbyshire)
  • Tarddleoedd hanesyddol cerrig a defnydd hanesyddol o gerrig (o safbwynt adeiladu ac o safbwynt addurnol ac archaeolegol): diffinio’r adnoddau yng ngogledd-ddwyrain Cymru (Andrew Haycock)
  • Aur cynhanesyddol: o ble y deuai’r aur a gâi ei ddefnyddio i greu arteffactau aur yn Oes y Copor ac Oes yr Efydd yng ngorllewin Prydain? (Dr Jana Horak)
  • Sicrhau bod daeareg gymhleth yn hygyrch – canllaw i ddaeareg Ynys Môn (Geoparc) (Dr Jana Horak)
  • Hanes casglu mwynau ym Mhrydain – sut yr oedd menywod a oedd yn gasglwyr ddechrau’r 19eg ganrif yn gweld y byd mwynyddol (Tom Cotterell)
  • Sicrhau bod casgliadau o fwynau a chreigiau’n hygyrch – catalog cam 1 o sbesimenau mwynau a gyhoeddwyd (Tom Cotterell)
  • Gwarchod y dreftadaeth naturiol – disgrifio amrywiaeth mwynol Cymru (Tom Cotterell)
  • Amrywiaeth sboncynnod y dail a sboncynnod planhigion yng nglaswelltiroedd rwbel glofeydd de Cymru (Dr Mike Wilson)
  • Datrys problemau yn nhacsonomeg sboncynnod y dail yng ngorllewin Ewrop (Dr Mike Wilson)