Ymchwil ym maes Hanes ac Archaeoleg – astudiaethau achos

Sut y mae tystiolaeth o waith cloddio archaeolegol yn taflu goleuni nid yn unig ar ddiwylliannau’r gorffennol yng Nghymru ond hefyd ar natur newidiol y gymdeithas sydd ohoni?

Ers dros 75 o flynyddoedd, mae’r Adran Archaeoleg a Niwmismateg wedi bod yn casglu tystiolaeth o fywyd a marwolaeth yng Nghymru, gan gynnwys eitemau sy’n amrywio o ddannedd mamoth a llongddrylliadau i ddarnau o arian Celtaidd a phelenni canon. Gyda’i gilydd, maent yn datgelu pethau i ni am archaeoleg a hanes Cymru o’r cyfnod pan ddefnyddiwyd ogofau am y tro cyntaf 250,000 o flynyddoedd yn ôl i ddechrau’r chwyldro diwydiannol. Yn ogystal ag astudio’r olion hyn er mwyn gwella ein dealltwriaeth o ddechreuadau Cymru, mae curaduron archaeoleg hefyd yn gweithio i gyflwyno’r canfyddiadau hyn i gynulleidfaoedd sy’n amrywio o ddisgyblion ysgol, ymwelwyr â’r amgueddfa a’r sawl sy’n pori ar y we i gymdeithasau cenedlaethol ac academyddion.

Mae ymchwil ym maes archaeoleg yn hanfodol er mwyn gallu adnabod a chofnodi trysorau’n gywir yn unol â’n dyletswyddau dan Ddeddf Trysor (1996). Mae’r Cynllun Henebion Cludadwy yn annog yr arfer o roi gwybod yn wirfoddol am eitemau archaeolegol a gaiff eu darganfod gan ddefnyddwyr peiriannau synhwyro metel ac aelodau eraill o’r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr nad yw’r Ddeddf Trysor yn berthnasol iddynt.

Projectau a amlygwyd:

Anheddiad yn dyddio’n ôl 10,000 o flynyddoedd ar Burry Holms, Gŵyr, Abertawe

Mae gwaith cloddio ar Burry Holms, sef ynys fechan oddi ar arfordir Gŵyr, wedi datgelu gwybodaeth newydd ryfeddol am gasgliad o offer cerrig a roddwyd i’r Amgueddfa yn y 1920au.

  • Mae gwaith newydd i ddyddio hadau, golosg a gronynnau tywod yn awgrymu dau anheddiad Mesolithig o 8244–7938 cal. CC i 3953–3773 cal. CC.
  • Mae gwaith dadansoddi’n dangos bod gan bobl wersyll tymhorol yma lle’r oeddent yn creu offer i hela, pysgota, gwneud gwaith coed a pharatoi crwyn, yn ogystal â phrosesu planhigion.
  • Mae’r golosg a’r macroffosilau planhigion yn datgelu tirwedd goediog ar fryn mewndirol, lle gallai deiet y bobl fod wedi cynnwys cloron y ddilwydd.

Mae’r ffaith bod tŷ crwn o’r Oes Haearn ynghyd ag arteffactau cysylltiedig, gan gynnwys gleiniau gwydr, wedi’u darganfod yn annisgwyl yn awgrymu bod gan Burry Holms hanes hir o gael ei ddefnyddio ar sawl adeg yn ystod y cyfnod cynhanesyddol.

Mae delweddau o Burry Holms i’w gweld yma: https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2007-05-11/Microlithau-o-Burry-Holms-1/

Cyhoeddiadau

Walker, E.A., F. Wenban-Smith a F. Healy. (2004) Lithics in action Oxbow books (2004).

Walker, E. A. (2000) 'Burry Holms (SS40019247)' Archaeology in Wales, cyf. 40, t.88-89 (2000).

Walker, E. A. (2001) 'Burry Holms (SS40019247)' Archaeology in Wales, cyf. 41, t.126 (2001).

Olion Llychlynnaidd yn Llanbedr-goch, Ynys Môn

Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo i astudio’r anheddiad o oes y Llychlynwyr yn Llanbedr-goch, Ynys Môn yn trawsnewid ein dealltwriaeth o gyfnod y Llychlynwyr yng Nghymru. Mae Alice Roberts, sy’n Athro Cynnwys y Cyhoedd mewn Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Birmingham, wedi gwneud gwaith i bennu rhyw ac oedran yr olion dynol o’r gloddfa hon yn ogystal â gwaith patholegol a gwaith i ganfod olion trawma (yn y llun hwn mae’n paratoi un at ddiben tynnu lluniau). Mae Dr Katie Hemer o Brifysgol Sheffield hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ar yr olion dynol er mwyn cael safbwynt isotopig ar ddeiet poblogaethau o’r cyfnod canoloesol cynnar a phenderfynu ble y byddent wedi byw yn blant.

Mae’r adran Hanes ac Archaeoleg hefyd wedi bod yn cynorthwyo astudiaethau gwyddonol doethurol ac ôl-ddoethurol o bwys ar olion dynol, yn rhan o’r casgliad sy’n ffurfio’r adnodd mwyaf ynghylch poblogaethau cynnar Cymru. Mae pynciau’r astudiaethau hynny’n amrywio o ymchwil ynghylch trawma, olion straen ar gyhyrau, ac iechyd i ddemograffi, afiechyd a deiet, a’r hyn y maent yn ei ddatgelu am symudedd pobl a’u deiet yn ystod y cyfnod hwn.

Ail-greu fferm Bryn Eryr o’r Oes Haearn

Yn y 1980au, bu archaeolegwyr yn datgloddio gweddillion tri thŷ crwn a adeiladwyd ym Mryn Eryr ar Ynys Môn yn ystod y canrifoedd a oedd yn arwain at y Goncwest Rufeinig ac a oedd yn gorgyffwrdd â’r cyfnod hwnnw. Roedd dau o’r tai crwn hynny wedi’u hadeiladu o glai.

Ein gwaith ni yn Sain Ffagan, sy’n seiliedig ar y dystiolaeth archaeolegol hon o Fryn Eryr, yw’r ymgais cyntaf o’i fath i ail-greu tŷ crwn â waliau clai o’r Oes Haearn. Cafodd dau dŷ crwn maint llawn eu hail-greu gan ddefnyddio dull adeiladu nas gwelwyd yng Nghymru ers yr Oes Haearn. Taflodd yr ymchwil oleuni pellach ar:

  • Yr heriau technegol sy’n gysylltiedig â defnyddio clai i adeiladu.
  • Y rhesymeg dros gael waliau clai hynod drwchus ym Mryn Eryr, a’r nodweddion draenio a welwyd ar y safle gwreiddiol.
  • Natur yr amgylchedd mewn tŷ crwn tebyg i hwn.

At hynny roedd y project yn rhan o broject a ariannwyd gan yr UE, a oedd yn archwilio’r heriau sy’n gysylltiedig â chyfuno anghenion atyniad i ymwelwyr â’r awydd i sicrhau cywirdeb wrth gyflawni gwaith ail-greu archaeolegol.

Dulliau:

  • Ymchwil pen desg. Dadansoddwyd prif archif y gloddfa er mwyn sicrhau bod y gwaith ail-greu yn cyd-fynd â’r dystiolaeth o’r safle gwreiddiol. Chwiliwyd trwy lenyddiaeth hefyd er mwyn sicrhau bod tystiolaeth debyg o safleoedd eraill yn cael ei hymgorffori yn y project.
  • Dadansoddi arteffactau. Cafodd yr offer a ddefnyddiwyd i greu dodrefn yn y tai, a’r arteffactau yr oedd y gwaith ail-greu’n seiliedig arnynt, eu cynhyrchu i gyd gan dîm cymysg o archaeolegwyr, cadwraethwyr a chrefftwyr, gan ddechrau gyda’r prif gofnod arteffactau.
  • Archaeoleg arbrofol. Roedd ail-greu’r adeiladau yn cynnwys creu damcaniaethau ynghylch ffurf y strwythurau gwreiddiol, a phrofi’r modelau hynny trwy’r broses adeiladu.
  • Astudiaethau ymwelwyr. Defnyddiodd y project gronfeydd Ewropeaidd i ymgynghori ag amgueddfeydd awyr agored ledled Ewrop er mwyn deall yn well sut i reoli llif ymwelwyr a sut i gynnal a chadw adeiladau.

Canlyniad project Bryn Eryr Sain Ffagan yw atyniad newydd o bwys, y mae miloedd o blant ysgol a degau o filoedd o ymwelwyr cyffredinol yn ymweld ag ef bob blwyddyn.

Cyhoeddiadau

Burrow, S. 2015. “From Celtic Village to Iron Age Farmstead: Lessons Learnt from Twenty Years of Building, Maintaining and Presenting Iron Age Roundhouses at St Fagans National History Museum.” EXARC Journal 2015

(4). https://exarc.net/issue-2015-4/aoam/celtic-village-iron-age-farmstead-lessons-learnt-twenty-years-building-maintaining-and-presenting

Projectau eraill ar gloddfeydd archaeolegol:

  • Rhaglen Ymchwil Aneddiadau Paleolithig Cymru, sy’n taflu goleuni ar natur aneddiadau dynol a sefydlwyd gan Neanderthaliaid cynnar ar gyrion eithaf Ewrasia
  • Cloddio’r anheddiad a’r domen o’r Oes Efydd a Chynnar yn Llan-faes, Bro Morgannwg, gan ddyfnhau dealltwriaeth o arferion gwledda a chysylltiadau diwylliannol yng ngorllewin Prydain ddechrau’r Oes Haearn

Beth oedd rôl Cymru yn y chwyldro diwydiannol a sut y gwnaeth hynny ddylanwadu ar y modd y datblygodd ei chymdeithas a’r effaith a gafodd ar weddill y byd?

Mae gan Gymru hanes hir a balch fel gwlad ddiwydiannol. Mae cofnodion cyfrifiad 1851 yn dangos mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd lle’r oedd cyfran uwch o’i gweithwyr yn cael eu cyflogi mewn diwydiant yn hytrach nag mewn amaethyddiaeth. Gall Gymru, felly, hawlio mai hi oedd y ‘wlad ddiwydiannol gyntaf yn y byd'. Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad helaeth o arteffactau a darluniadau sy’n adlewyrchu’r newidiadau hynny, sy’n galluogi ymchwil i daflu goleuni ar agweddau newydd ar dreftadaeth ddiwydiannol Cymru a’r rôl a chwaraeodd yn y chwyldro diwydiannol.

Projectau a amlygwyd

Mwyngloddio metel. Arolwg o fwyngloddiau metel yng Nghymru, mewn cydweithrediad â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, a oedd yn dadansoddi cyflymder ac achosion prosesau colli a dirywio yng nghyswllt dosbarth pwysig o safleoedd diwydiannol hanesyddol yng Nghymru.

Hanes cymdeithasol y pyllau glo. Yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, mae gwaith ymchwil wedi arwain at gyhoeddiadau o bwys am hanes cymdeithasol y diwydiant glo, sy’n seiliedig ar waith maes mewn hen gymunedau glofaol yn y gogledd a’r de. Maent yn cynnwys cyhoeddiadau am weithwyr o Ddwyrain Ewrop yn y maes glo, Bechgyn Bevin yr Ail Ryfel Byd a streic y glowyr 1984/85. (Mae cyhoeddiadau eraill yn cynnwys rhai’n ymwneud â merlod y pyllau glo, plant a phobl ifanc yn y pyllau glo a rôl y baddonau pen pwll). Mae gwaith ymchwil cyfredol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) a Chyfrinfa Myrddin y Seiri Rhyddion ym Mhontypridd yn archwilio gyrfa Dr Henry Naunton Davies a oedd yn feddyg pwll glo yng nghanol yr ugeinfed ganrif.

Sut y gallwn ddefnyddio ein casgliadau a’n harchifau ynghylch hanes ac archaeoleg Cymru i gyfoethogi ac amrywio dealltwriaeth o hunaniaeth Gymreig ddoe a heddiw, a’r modd y mae’r cyhoedd yn ymgysylltu â’r hunaniaeth honno?

Projectau a amlygwyd:

Terfyn Gorllewinol Rhufeinig Britannia

Mae hanes y Rhufeiniaid yn goresgyn Cymru yn hanes sydd o bwys byd-eang, a bydd gwaith ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar y rôl a chwaraeodd Cymru yn yr Ymerodraeth Rufeinig ehangach yn taflu goleuni newydd ar yr hanes hwnnw. Bydd ysgoloriaeth ymchwil gydweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau gyda Phrifysgol Bryste a Phrifysgol Southampton yn archwilio sut y gall cyfryngau sgrîn, perfformiadau ac astudiaethau o wrthrychau fynegi negeseuon sy’n taro tant yn rhyngwladol ar gyfer cynulleidfaoedd newydd . Bydd ymchwil yn y dyfodol ar hanes cymdeithasol a diwylliannol yr Ymerodraeth yn canolbwyntio ar themâu megis bwyd, addysg, gwrthryfel a’r Dwyrain yn erbyn y Gorllewin, gan archwilio agweddau rhyngwladol ar fudo, treftadaeth, cof, hanes ac Ymerodraeth. Mae cais am gyllid gan Rwydwaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ynghylch Terfyn Gorllewinol Britannia yn cael ei baratoi gyda Phrifysgol Caer er mwyn datblygu’r gwaith hwn.

Hanes a diwydiant

Mae’r casgliadau hanes cymdeithasol a diwydiant wedi’u lleoli’n bennaf yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol: Nantgarw. Mae safleoedd eraill yr Amgueddfa sy’n ymwneud yn ganolog â hanes a diwydiant yn cynnwys Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Yn wir, mae cynifer â chwech o’r wyth o amgueddfeydd sy’n rhan o Amgueddfa Cymru yn canolbwyntio’n bennaf ar hanes cymdeithasol a diwydiannol.

Caiff gwaith ymchwil ei gyflawni gan ddefnyddio’r casgliadau hanes i greu arddangosfeydd newydd, e.e.

  • orielau hanes cymdeithasol newydd yn Sain Ffagan, gan ddefnyddio dulliau cydgynhyrchu a chydguradu newydd ac arloesol er mwyn cynnwys safbwyntiau a barn allanol ynghylch beth y dylid ei arddangos
  • oriel lofaol newydd wedi’i hailwampio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, lle mae 137 o’r 980 o eitemau a gaiff eu harddangos yn yr amgueddfa erbyn hyn yn gysylltiedig â glo

Sut y gallwn ymestyn democratiaeth ddiwylliannol trwy fynd i’r afael â hawliau diwylliannol yn ein casgliadau hanesyddol, ein harferion casglu a’n harddangosfeydd, a thrwy ddefnyddio archaeoleg i roi llais i ddiwylliannau mud y gorffennol yng Nghymru?

Projectau a amlygwyd:

Ymchwil a gydgynhyrchwyd yn Sefydliad y Gweithwyr yn Oakdale

Ganrif ers iddo gael ei adeiladu gan gymuned lofaol Oakdale, mae ailddehongli’r Sefydliad wedi arwain at ei adfer i’w ddiben gwreiddiol – sef lle sy’n hybu dysgu, cymuned, diwylliant a lles. Ar y cyd ag ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Rachel Hurdley, a Solace, sef gwasanaeth cymorth i ofalwyr, bu grŵp o bobl â dementia cynnar yn datblygu gyda’r Amgueddfa ddarn o waith ymchwil a arweiniwyd gan y defnyddwyr. Bu’r ymchwil yn archwilio sut y gellir sicrhau cydbwysedd rhwng cynnal cywirdeb yr adeilad a diwallu anghenion pobl sy’n byw gyda dementia.

Mae canfyddiadau’r gwaith yn amlygu nodweddion synhwyraidd a materol yr amgylchedd ffisegol; yr angen i bobl fod yn ofalgar; ac roedd yn codi cwestiynau ynghylch diben amgueddfa? Un o’r prif ganfyddiadau oedd bod unrhyw le sy’n deall dementia hefyd yn deall pobl. At hynny, esgorodd y project ar gwestiynau dyfnach ynghylch y modd y mae dementia, yn ei wahanol ffurfiau a’i wahanol raddau niferus, yn datgelu rhagdybiaethau cymdeithasol dwfn ynghylch yr hyn y mae bod yn berson yn ei olygu.

Cyflawni gwaith ystyrlon yn yr Amgueddfa o safbwynt ymgysylltu â chymunedau: Beth sy’n gweithio?

Mae Grant Doethurol Cydweithredol, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, wrthi’n archwilio’r ffyrdd y gall pobl ag anableddau gael mynediad i amgueddfeydd a’r ffyrdd y caiff pobl anabl eu cynrychioli yn ein harddangosfeydd.