Uchafbwyntiau

Mae'r Amgueddfa yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

Cafodd y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru effaith aruthrol ar Bobl, Cymunedau a Bywydau, heb sôn am weddill y byd. Byddwch yn ail-fyw hanes mewn cyfuniad cyffrous o’r hen a’r newydd yng nghanol datblygiadau diweddaraf ardal forwrol y ddinas.

Bobl, Cymunedau a Bywydau

Dewch i weld ein cyfoeth diwydiannol a morwrol mewn cyfuniad o arddangosfeydd rhyngweithiol ac arloesol, law yn llaw a rhai mwy traddodiadol. Dyma gyfle i ymwelwyr gael profiad ymarferol, heb ei ail, yn ein hamgueddfa genedlaethol ddiweddaraf.

Mae'r Amgueddfa yn hen warws rhestredig sy'n cysylltu ag adeilad o lechi a gwydr. Yma gallwch ddarganfod y Drafnidiaeth, Deunyddiau a Rhwydweithiau oedd yn mor bwysig, a'r 'pethau mawr' sydd wedi cyfrannu gymaint tuag at hanes diwydiannol ein cenedl.

Drafnidiaeth, Deunyddiau a Rhwydweithiau

Chi biau’r dewis yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Cewch brofi’r holl arddangosfeydd ac arddangosiadau a phori drwy’r wybodaeth fel y mynnoch.

Mae Gwnaed yng Nghymru yn edrych ar newidiadau gan arddangos rhai gwrthrychau ac arteffactau o’r cyfnod rhwng 1930 a heddiw.

Oriel Gwnaed yng Nghymru

Ymweld yr Amgueddfa

Digwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Eich Ymweliad