Dathliad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn 15
Ar 17 Hydref 2005, croesawodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ei hymwelwyr cyntaf. 15 mlynedd yn ddiweddarach mae wedi datblygu mewn ffyrdd annisgwyl. Mae'n parhau i adrodd stori treftadaeth ddiwydiannol Cymru a chynnal a thyfu casgliad cenedlaethol wedi'i seilio ar ddiwydiant, ond mae hefyd wedi lledaenu gwreiddiau cymunedol dwfn. Dyma Amgueddfa Lloches gyntaf y DU, mae'n gweithredu prosiect garddio a bwyd cymunedol arobryn o'r enw GRAFT, mae'n ganolfan i lawer o weithgareddau cymunedol a hanesyddol Abertawe, ac mae'n cynnal rhaglen flynyddol brysur o ddigwyddiadau sy'n denu pobl o bob oed o bob rhan o Gymru a'r byd. Dyma edrych yn ôl ar stori'r amgueddfa hon, o'r cychwyn cyntaf.
Adeiladu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Blog: Dathliadau Pen-blwydd: 15 mlynedd gyntaf Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gan Steph Mastoris
I ni’r staff yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mae'n anodd credu bod 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni groesawu ein hymwelwyr cyntaf ar 17 Hydref 2005. Er bod pobl ar eu ffordd i fod yn oedolion yn 15 mlwydd oed, rydym ni i gyd yn yr Amgueddfa yn teimlo'n ifanc, yn ffres a mentrus.
Dathliad o 15 Gwrthrych ar Gyfer 15 Mlynedd 2005-2020
Fel rhan o'n dathliadau rydym wedi llunio arddangosfa fach o bymtheg o bethau sydd wedi'u rhoi i gasgliadau diwydiant Amgueddfa Cymru.
Project garddio GRAFT
Mae GRAFT yn broject garddio cydweithredol rhwng menter 14-18 Now, yr artist Owen Griffiths ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.