Digwyddiadau

Digwyddiad: Dyddiau Dawns

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
9 a 10 Gorffennaf 2022, 11am - 5pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Dewch i fwynhau gŵyl ddawns flynyddol Abertawe am ddim yr haf hwn wrth i Taliesin ddod â pherfformwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt at ei gilydd gyda grwpiau dawns lleol, mewn gŵyl ddawns o safon ryngwladol.

Cynhelir yr ŵyl yn yr Amgueddfa ac o'i chwmpas, gyda rhaglen sy’n cynnwys perfformiadau bendigedig o ddawns draddodiadol, gyfoes, syrcas a parkour mewn gofodau annisgwyl.
Mae'r ŵyl yn cynnig gweithdai i bawb o bob oedran hefyd, gyda chriw Circus Eruption o Abertawe.

Bydd Abertawe yn dod yn fyw wrth i ni fwynhau dawns gan County Youth Dance Company, Cwmni Theatr Volcano a CanDo Hub mewn perfformiad newydd gan Richard Chappell Dance, perfformiad dawns hyfryd gan Stopgap Dance Company a sioe arbennig i'r teulu gan Theatr Iolo a Kitch & Sync Collective, HOOF! Bydd hen ffefrynnau’r ŵyl yma i’ch diddanu, yn ogystal â rhai newydd, gan gynnwys y Silver Swans o Isaac-Clarke Academy of Dance, a Thrychfilod a'r Campau Campus!
 

Dewch o hyd i fanylion llawn yr ŵyl ar wefan Dyddiau Dawns

Digwyddiadau