Digwyddiadau

Digwyddiad: Miri Mathemategol

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
6 Tachwedd 2022, 10am
Pris Oedolion £2.50, plant £2.50
Addasrwydd Oed 8+

Ymunwch â Kyle Evans, y cyfathrebwr mathemateg a'r digrifwr cerddorol, wrth iddo archwilio rhai cysyniadau mathemategol syfrdanol. Mae'r sioe'n cynnwys llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa a rhai o hoff arddangosiadau Kyle, o grysau T Hanoi i bencampwriaeth plygu papur y byd, a hyd yn oed ymdrech i wasgu holl stociau reis y DU ar un bwrdd gwyddbwyll (mae'r rhan hon yn methu fel arfer, ond mae'n rhoi cynnig da arni). P'un a ydych chi'n dwlu ar fathemateg neu'n ei chasáu, mae'r sioe hon yn cyfuno chwarae â rhifau ag adloniant i'r teulu mewn modd hygyrch sy'n cynnig rhywbeth at ddant plant a'u rhieni. 

Archebu eich Tocyn

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

Sioe a ddarperir gan: Kyle Evans

Digwyddiadau