Digwyddiadau

Arddangosfa: Ar Frig y Don – RNLI Cymru 200

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
22 Mehefin 2024 – 16 Mawrth 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Wrth i’r RNLI ddathlu’r 200, rydyn ni’n rhoi sylw i’w cyfraniad enfawr i ddiogelwch ar fôr ac arfordir Cymru, yn achub cannoedd o fywydau. 

O longddrylliadau i bobl yn mynd i drafferthion ar eu gwyliau, mae natur y gwaith achub – a’r offer sydd ei angen – wedi newid yn sylweddol. 

Dewch i ddarganfod hanes y cwch arloesol a gafodd ei ddylunio a'i adeiladu yng Ngholeg yr Iwerydd a straeon y rhai fu’n ei ddefnyddio.

Digwyddiadau