Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Noson yn llawn bwyd seiliedig ar blanhigion tymhorol blasus, cerddoriaeth fyw hudolus, a chelfyddyd fyw gyfareddol.
Bydd y cwrs olaf yn cael ei weini ger y tân, i godi’n calonnau ac i sbarduno sgyrsiau newydd. (Bydd cyflenwad da o falws melys hefyd.)
Rydym wrth ein bodd bod y fwydlen ar gyfer y noson swper hon wedi’i chreu gan Queer Flavours a’i chyflwyno gan ein ffrindiau yn The Shared Plate.
....Tywydd gwlyb? Dim problem! Bydd y digwyddiad yn symud dan do i golonâd yr amgueddfa (lle mae ei naws ddiwydiannol yn tystio i’r ffaith ei fod unwaith yn seidin rheilffordd)
Tocynnau - Mae prisiau’r tocynnau ar gyfer y swper hwn yn amrywio. Dewiswch y pris sydd fwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau.
£26 – Safonol
£18 - Hygyrch
BWYDLEN
Gardd gymunedol sy’n werddon yng nghanol y ddinas yw GRAFT .
Queer Flavours - Mae Leo yn gogydd cwiar sydd wedi cychwyn cwmni arlwyo yn ffocysu ar ddigwyddiadau llawen, cynhwysol a chreadigol.
Mae The Shared Plate yn gwmni arlwyo moesegol gyda bwyd a phobl yn gallon i’r cwbl.
Gan ddefnyddio cynnyrch tymhorol a chynaliadwy, (a llawer o lysiau a dyfir eu hunain), mae eu helw yn ariannu eu prosiectau cymunedol.
Mae'r rhaglenni Share Plate yn ceisio meithrin cysylltiad mewn pobl a chymunedau trwy goginio a thyfu.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd