Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Llun ar Hanes

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni i ddysgu am hanes mewn ffordd wahanol. Bydd un o’n curaduron yn cyflwyno gwrthrychau o’r casgliadau ac artist yn eich helpu i greu dehongliad eich hunan.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Cyfle i grwydro a mwynhau'r arddangosfa a'r casgliadau
  • Cyfle i fwyhau gweithgaredd crefft ysgafn
  • Diod gynnes a sgwrs

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le Mae'r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth. 

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia. Oherwydd o niferoedd cyfyngedig, ac wrth i ni drio cynnwys mor nifer o bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia a phosib, ni gallen roi llefydd i gynrychiolwyr sefydliadau sy ddim yn cefnogi unigolyn i fynychu.

Rhaid archebu ymlaen llawI archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde’. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.

Gwybodaeth

29 Mai 2025, 1pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Llun ar Hanes

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau