Digwyddiad:Gwisg Calico Cymru - Gweithdai i'r Teulu

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni mewn gweithdy arbennig i bwytho eich addurn eich hun ar WISG CALICO CYMRU. 

Mae'r sesiynau teuluol hyn ar gyfer plant hŷn 10 oed a hŷn yng nghwmni oedolyn sy'n cymryd rhan. 

Am 10 wythnos o fis Ebrill i fis Mai bydd Gwisg Calico Cymru i’w gweld yn ei holl ogoniant ar blinth mawr ar lawr isaf Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y gofod perffaith i chi ddod i bwytho eich dyluniad eich hun ar y wisg. 

Bydd y sesiynau ar dechneg pwytho dan arweiniad yr artist tecstilau Menna Buss (@menna_buss) felly does dim angen profiad blaenorol. 

Yn y sesiynau byddwch yn dylunio ac yna’n pwytho addurn ar thema Cymru – Ddoe, Heddiw ac Yfory, gan ychwanegu eich llais chi at y cynfas arbennig hwn. 

Erbyn diwedd ei hamser yn yr Amgueddfa, bydd gennym wisg unigryw wedi’i haddurno’n gywrain. 

- Erbyn hyn mae nifer o rai eraill ar draws y byd. 

- 10+ oed gydag oedolyn sy'n cymryd rhan.

- Does dim angen profiad blaenorol! 

- Does dim angen dod ag unrhyw beth, ond croeso i chi ddod â’ch edau eich hun. 

Cefndir 

Yn 2022 cafodd project Y WISG GOCH yr artist Kirstie Macloed  ei arddangos yn yr Amgueddfa. Mae’r project hwn, sydd ar fynd ers 15 mlynedd, yn casglu lleisiau merched o bob cwr o’r byd, mewn pwythau. 

Cafodd GWISG CALICO CYMRU ei chomisiynu gan yr Amgueddfa, y wisg gyntaf i gael ei chreu wedi’i hysbrydoli gan y wisg goch. 

Archebu fel Grŵp Cymunedol ...os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol ac eisiau cyfrannu at y wisg mewn sesiwn arbennig, cysylltwch â ni  miranda.berry-bowen@amgueddfacymru.ac.uk 

Gwybodaeth

18 Mai 2025, 10.30am a 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd 10+ oed gydag oedolyn sy'n cymryd rhan.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau