Arddangosfa:Arddangosfa Dydd Gwyl Dewi - Gwisg Galico Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Mae Gwisg Calico Cymru wedi dychwelyd i'r amgueddfa i ddangos y dyluniadau newydd a'r trawsnewidiad i'r wisg ers ei chyfnod preswyl gyda ni llynedd. 

Cynfas brodwaith cymunedol yw Gwisg Galico Cymru, lle i bawb gael dweud eu dweud trwy bwytho 

Yn Ebrill 2025, fe gychwynodd y wisg ar gyfnod newydd ar ei thaith yn yr amgueddfa pan gafodd ei lliwio â lliw indigo naturiol a siacedbetgwnwlân, yn deyrnged i wisg draddodiadol Gymreig 

Dros y 10 wythnos canlynol fe drawsnewidiwyd y wisg mewn dros 30 o weithdai dan arweiniad yr artist Menna Buss. Daeth y gweithdai yma ac aelodau o’r gymuned at eu gilydd, rhai oedd gyda phrofiad o frodio, ond nifer fawr heb brofiad, i rannu straeon a’u cysylltiadau gyda Chymru 

  • Women’s Asylum Seeker Support Group 
  • Myfyrwyr Celf PCYDDS  
  • Grwp Barakah  
  • 9to90 - GS Artists 
  • PRIDE Abertawe  
  • Chai & Chat 
  • Born this Way 
  • YMCA Good Vibes 
  • Women’s Institute - Gŵyr 
  • Swansea Creatives for Palestine 
  • Cymdeithas Tsieineaid yng Nghymru 
  • Swansea Sewers 
  • Glynn Vivian Art Gallery: Threads 
  • Valleys Kids 
  • Insole Court Sewers 
  • Swansea Carers 
  • Staff yr Amgueddfa 
  • A nifer o sesiynau cyhoeddus, gan gynnwys sesiynau i blant 

Yn Hydref 2025 fe wnaeth y wisg ymddangos yng Nghardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gŵyl Grefft Aberteifi a Coleg Gwyr Abertawe ac mae cynlluniau cyffrous ar gyfer y wisg yn 2026.  

Hanes Gwisg Galico Cymru  

Yn 2022, cafodd project rhyngwladol enwog Kirstie Macloed, Y Wisg Goch, ei arddangos yn yr Amgueddfa 

Mae’r prosiect bellach wedi torri Record Byd Guinness am y nifer mwyaf o frodwyr i weithio ar un dilledyn. Cafodd y wisg ei chreu gan 380 o artistiaid mewn 51 gwlad dros gyfnod o 14 mlynedd. Mae’r prosiect yn parhau i deithio ac ysbrydoli 

Cafodd Gwisg Galico Cymru ei chreu mewn partneriaeth â'r Amgueddfa. Dyma 'ferch' gyntaf y Wisg Goch. Bellach mae llawer iawn o rai eraill yn cael eu datblygu ar draws y byd. ⁠Byddan nhw'n cael eu harddangos gyda'u gilydd yn y dyfodol. 

Gwybodaeth

30 Ionawr–12 Ebrill 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Gwisg Calico Cymru
Gwisg Calico Cymru
Gwisg Calico Cymru
Gwisg goch

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau